Asiantaeth gyda Llywodraeth Cymru ydym ni a sefydlwyd yn 2020 i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Rydym yn cefnogi ein sectorau creadigol, yn sbarduno twf yn ein heconomi ac yn helpu i adeiladu dyfodol llewyrchus i'n gwlad.
Mae ein tîm arbenigol yn cysylltu pobl a busnesau i feithrin cyfleoedd newydd; yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i ddatblygu sgiliau ein gweithlu a chefnogi ein gweithwyr dan hyfforddiant; ac yn buddsoddi mewn syniadau a phobl i helpu ein heconomi greadigol i ffynnu.
Yma yn Cymru Greadigol rydym yn darparu cefnogaeth ar draws ein sectorau creadigol – o gerddoriaeth i animeiddio. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am y cyfleoedd hyfforddi diweddaraf, yn ogystal â rhoi cyngor ar ariannu.
Rydym yn hyrwyddo'r sectorau creadigol, fel y gallant fynd ymlaen a chefnogi unigolion creadigol – o'r lleoliadau ar lawr gwlad sy’n rhoi cyfle i artistiaid ddisgleirio, i'r ffilmiau sy'n arddangos y dalent y tu ôl i'r camera. Wedi'r cyfan, pan fyddwn yn buddsoddi ynddyn nhw, rydym yn buddsoddi yng Nghymru.
Un peth, serch hynny...
Mae celfyddyd gain, dawns, theatr a barddoniaeth y tu allan i'n cylch gwaith. Ond peidiwch â phoeni, dydyn nhw ddim wedi cael eu hanghofio. Mae sefydliadau eraill, fel Cyngor Celfyddydau Cymru yn gofalu am y meysydd creadigol hanfodol a llwyddiannus hyn.