Hysbyseb Preifatrwydd Marchnata ac Ymchwil Cymru Greadigol

Mae tîm Cymru Greadigol yn parchu ac yn dymuno diogelu preifatrwydd defnyddwyr ein gwasanaethau. Fel rhan o'n darpariaeth, weithiau bydd angen i ni brosesu rhywfaint o ddata personol amdanoch chi.

Mae prosesu eich data personol yn angenrheidiol er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau a'i chyfrifoldebau fel rhan o'i thasg gyhoeddus. Ni fyddwn yn marchnata ein gwasanaethau i chi heb gael eich caniatâd yn gyntaf.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data’r data personol sy’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio gan Cymru Greadigol at y dibenion sydd wedi eu rhestru isod.

Cylchlythyr Marchnata Diwydiannau Creadigol Cymru Greadigol

Os byddwch yn ymuno â Chylchlythyr Marchnata Diwydiannau Creadigol Cymru Greadigol yna byddwn ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i weinyddu'ch cyfrif ac i ddarparu'r cynnyrch a'r gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdanynt gennym ni.

O bryd i’w gilydd, byddwn yn anfon newyddion a gwybodaeth atoch am y diwydiannau creadigol yng Nghymru fyddwn ni’n teimlo sydd o ddiddordeb i chi, gan gynnwys astudiaethau achos, mentrau a digwyddiadau newydd y gallai fod yn berthnasol i’ch rôl, math o gwmni, a’ch lleoliad. Bydd y wybodaeth hon wedi'i hanelu'n benodol at sbarduno twf ar draws y diwydiannau creadigol, gan adeiladu ar lwyddiant presennol a datblygu talent a sgiliau newydd – gan wneud Cymru yn un o'r llefydd gorau i fusnesau creadigol leoli a ffynnu.

Mae croeso i chi ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg drwy glicio ar y ddolen datdanysgrifio mewn unrhyw e-bost fyddwch chi’n ei dderbyn gennym ni, neu gallwch anfon e-bost atom yn cymrugreadigol@llyw.cymru.

Yn dilyn arfer safonol y diwydiant, pan fyddwch yn datdanysgrifio bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gadw ar restr yn ein system i sicrhau nad ydych yn derbyn e-byst gan Cymru Greadigol eto.

Ymchwil Rhanddeiliaid Cymru Greadigol

Byddwn yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn ymchwil i helpu i wella ein gwasanaethau a'n polisïau. Mae cwblhau'r holiaduron hyn yn wirfoddol. Gall y wybodaeth sydd yn yr holiaduron gael ei rannu gyda chwmni ymchwil dan gontract i'w werthuso ar ein rhan, ac os ydych wedi cytuno i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil, yna efallai y cewch eich dewis i dderbyn arolygon ymchwil eraill sy'n gysylltiedig â diwydiannau creadigol.

Byddwn yn rhoi cyfle i chi adnewyddu eich cytundeb i gymryd rhan mewn ymchwil ar ôl tair blynedd, ond mae hyn yn wirfoddol. Gallwch ofyn am gael eich tynnu oddi ar y rhestr ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost at cymrugreadigol@llyw.cymru.