Rydym yn falch iawn o noddi Gwobr Iris eleni sy'n ddathliad wythnos o hyd o straeon LHDTC+ sy'n cefnogi cynhyrchu ffilmiau LHDTQ+ newydd.
Wrth galon yr ŵyl mae Gwobr Iris, cystadleuaeth ryngwladol i wobrwyo rhagoriaeth mewn adrodd straeon LHDTC+ ar y sgrin.
Bydd Iris yn sgrinio 55 o ffilmiau byrion newydd o bob cwr o'r byd, ynghyd â 12 ffilm nodwedd a rhaglen o sgyrsiau, addysg a sesiynau hyfforddi wedi'u hanelu at bobl ifanc 14 - 25 oed, a phaneli diwydiant.