Mae'r Gronfa Refeniw Cerddoriaeth yn gynllun i helpu busnesau cerddoriaeth yng Nghymru i wella eu rhagolygon masnachol a'u cynaliadwyedd.

Mae hyd at £40,000 ar gael i ymgeiswyr a fyddai'n elwa o gymorth oherwydd cyfyngiadau ariannol. 

Fel rhan o'n rhaglen ehangach o gefnogaeth i'r diwydiant cerddoriaeth, ffocws y rownd hon yw helpu busnesau cerddoriaeth gyda:

  • ymgyrchoedd ar gyfer datganiadau newydd
  • hyrwyddo cerddoriaeth fyw
  • cerddoriaeth cysoni 'sync' a chatalog
  • cerddoriaeth yn y Gymraeg.

Ei nod yn y pen draw yw cyfrannu at dwf a datblygiad ein diwydiant cerddoriaeth amrywiol yng Nghymru. 

I gael dadansoddiad llawn o gymhwysedd, yr hyn y gallwn ac na allwn ei ariannu, a'r broses ymgeisio, darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd llawn. 

Cymhwysedd

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos mai eu prif swyddogaeth yw gweithio gyda cherddorion ar hyrwyddo, cysoni neu gyhoeddi cerddoriaeth wedi’i recordio o natur fasnachol. Gall y gerddoriaeth sy’n cael ei chynnal, ei recordio, ei hymarfer neu ei hyrwyddo gan y busnes ddod o’r sbectrwm llawn o genres cerddoriaeth boblogaidd cyfoes (electronig; hip-hop; indie ac amgen; metel a phync; pop; roc; ac ati).

Ni fyddai busnesau sy’n cynnal/hyrwyddo cerddoriaeth glasurol neu jazz yn bennaf yn gymwys ar gyfer y gronfa hon, gan fod cefnogaeth i’r genres hyn ar gael mewn mannau eraill (e.e. gyda Chyngor Celfyddydau Cymru). Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gymwys ai peidio, cysylltwch â ni a byddwn ni’n fwy na pharod i drafod hyn.

Ni allwn gefnogi ceisiadau gan fandiau unigol. Ar ben hynny, dim ond y perchnogion sy’n gyfrifol am redeg y busnes fydd yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn.

Dyddiadau allweddol

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich cynnig yw Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024 am 12pm. Rhaid i ymgeiswyr allu cyflawni eu prosiect cyn 28 Chwefror 2025. Darllenwch nodiadau cyfarwyddyd gael manylion llawn am yr hyn y mae angen ichi ei gyflwyno.

I ofyn am ffurflen gais, ebostiwch: CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru.

Cyn i chi wneud cais, cewch drafod eich cynnig gydag un o Reolwyr Datblygu Sector Cymru Greadigol drwy e-bostio'r cyferiad uchod.

Nodiadau cyfarwyddyd Cronfa Refeniw Cerddoriaeth

Manylion ar sut i gyflwyno cynnig ariannu