Nod yr arolwg hwn fydd casglu data a mewnwelediadau cyffredin ar draws sectorau, a fydd yn llywio’r ffordd orau y gall Cymru Greadigol gefnogi sefydliadau ac unigolion yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol. Bydd SRI yn casglu gwybodaeth drwy arolygon ar-lein a dros y ffôn yn ystod mis Hydref a Tachwedd 2024. Cynhelir yr arolwg hwn yn flynyddol a dyma'r trydydd arolwg i'w gwblhau.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data’r ymchwil. Fodd bynnag, bydd SRI yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolygon ac yn gwneud y data crai yn ddienw, cyn ei rannu â Cymru Greadigol.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a ddarperir i Cymru Greadigol. Ni fydd yr adroddiad hwnnw’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Eich dewis chi yn llwyr yw p'un a ydych am gymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn ai peidio. Fodd bynnag, diben yr arolwg hwn yw monitro tueddiadau ac anghenion y sector ar wahanol adegau er mwyn darparu gwell dealltwriaeth o'r sector a lledaenu'r canfyddiadau mewn ffordd ddefnyddiol a gwerthfawr i'r diwydiant ehangach.

Y cyswllt ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn Strategic Research & Insight yw Saadiah Hood

Cyfeiriad e-bost: saadiah@strategic-research.co.uk

Rhif ffôn: 029 2040 4044

Hysbysiad Preifatrwydd

Pa ddata personol sydd gennym, a ble rydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddynodydd'.

Gofynnwyd i chi lenwi arolwg fel rhan o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Nid oes gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata personol fel rhan o'ch ymatebion wrth lenwi’r arolwg. Gofynnwyd i chi lenwi’r arolwg naill ai oherwydd:

  • Rydych wedi cael e-bost gan un o randdeiliaid allweddol tîm Cymru Greadigol yn Llywodraeth Cymru. Mae'r e-bost yn cynnwys dolen i'r arolwg. Nid yw llenwi’r arolwg yn cipio eich cyfeiriad e-bost nac IP ac felly mae'r ymatebion yn ddienw. Nid yw eich ymatebion yn weladwy i unrhyw un heblaw am SRI a Llywodraeth Cymru
  • Mae eich manylion cyswllt (enw a rhif ffôn) wedi'u prynu gan SRI gan ddarparwr data cymeradwy, Market Location, sy'n cydymffurfio â GDPR y DU.

Os ydych yn cael cais i lenwi’r arolwg drwy'r ddau lwybr uchod, gallwch ei lenwi ar-lein neu dros y ffôn fel y dymunwch.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol mewn ymatebion testun agored yn yr arolwg, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a ddarperir gennych, neu gysylltu eich hunaniaeth â hwy, a chaiff hyn ei ddileu cyn i ddata gael ei ddarparu i Cymru Greadigol.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru fedru casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynglŷn â’i gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y gwaith ymchwil hwn, er enghraifft, er mwyn:

  • Darparu gwell dealltwriaeth o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru
  • Nodi mewnwelediadau cyffredin ar draws sectorau i helpu Cymru Greadigol i gefnogi busnesau ac unigolion yn well.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i SRI bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn a all gael gafael ar y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd SRI yn defnyddio'r data hyn. Mae gan SRI ardystiad Cyber Essentials.

Wrth gynnal arolygon, mae SRI yn defnyddio Google Docs/Sheets i brosesu data. Rydym wedi sicrhau bod Google Docs/Sheets yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd.

Mae gan SRI weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion tybiedig o dorri diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri'r rheolau, bydd SRI yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a fydd yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr pan fo’n ofynnol yn gyfreithiol inni wneud hynny.

Bydd SRI yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw’n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Gall SRI gadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd SRI yn dileu unrhyw ddata personol o'r fath dri mis ar ôl diwedd y contract.

Bydd SRI yn rhoi copi dienw o ganlyniadau'r arolwg i Lywodraeth Cymru.

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r arolwg hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl:

  • I weld copi o'ch data eich hun;
  • I'w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
  • I'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol); ac
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. www.ico.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael eu defnyddio gan Cymru Greadigol, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Sophie Roberts

E-bost: Sophie.Roberts021@llyw.cymru

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ,

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru