Mae buddsoddiad wedi'i dargedu mewn seilwaith stiwdios wedi bod yn hanfodol i dwf y sector creadigol a gallu Cymru i gystadlu â rhannau eraill o'r DU wrth gynnal cynyrchiadau rhyngwladol mawr. Rydym hefyd am sicrhau bod ein stiwdios yn fforddiadwy i gwmnïau lleol i greu cynnwys.

O ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o stiwdios Cymru yn meddu ar gyfarpar da ac yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer cynyrchiadau mawr.

Daeth Ailbrisio NDR (Annomestig Llywodraeth y DU) diweddaraf i rym ar 1 Ebrill 2023 a neilltuodd ardrethi busnes diwygiedig i adlewyrchu newidiadau yn amodau'r farchnad rentu. O ganlyniad i hyn, mae rhai sectorau - gan gynnwys stiwdios - wedi gweld cyfraddau sylweddol uwch.

Mae cymorth Llywodraeth Cymru ar gael drwy Cymru Greadigol i helpu i liniaru effaith y cynnydd hwn.

Diben y gronfa

Nod y gronfa yw darparu cymorth ariannol i stiwdios sydd wedi gweld cynnydd mawr mewn rhwymedigaethau NDR ers ailbrisio Ebrill 2023. Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu fel grant drwy Cymru Greadigol ar gyfer stiwdios cymwys er mwyn creu cydraddoldeb â'r chymorth ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth DU ar gyfer stiwdios yn Lloegr yn 2024-25.

Bwriad y cymorth a ddarperir yw sicrhau nad yw stiwdios cymwys, i bob pwrpas, yn talu mwy na 60% o'u hatebolrwydd NDR gros (h.y. beth fyddai eu hatebolrwydd heb unrhyw ryddhad NDR arall gan gynnwys rhyddhad trosiannol, a'r grant hwn). Ar gyfer stiwdios cymwys, bydd gwerth y grant yn gwrthbwyso'r gwahaniaeth rhwng 60% o'u hatebolrwydd gros a'u bil NDR gwirioneddol (a gyhoeddir yn uniongyrchol i'r stiwdio gan yr awdurdod lleol perthnasol).

Pwy all gwneud cais?

Bydd yr alwad hon am gynigion ariannu yn dechrau ar Ddydd Llun 30 Medi 2024, a bydd yn cau i geisiadau ar Ddydd Llun 02 Rhagfyr 2024 am 12.00 hanner dydd. Ni ystyrir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd yn hwyr.

Y cyfnod cyllido cymwys fydd 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025, 

The funding period is intended to cover the tax year 1 April 2024 to 31 March 2025, gallwch lawrlwytho'r nodiadau cyfarwyddyd yma.

(a) Rhaid i ymgeiswyr

  • Fod wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn cyflogi staff yng Nghymru;
  • Wedi bod yn masnachu cyn 1 Ebrill 2023, ac yn dal i fod yn masnachu (a dystiwyd gan gyfrifon ariannol o'r cyfnod ariannol diwethaf);
  • Beidio â chael eu clustnodi ar gyfer cau, neu mewn perygl mawr o gau. (tystiolaeth gan gyfrifon ariannol o'r cyfnod ariannol diwethaf ac adolygiad diwydrwydd dyladwy ariannol llawn).

(b) .Rhaid defnyddio stiwdios cymwys ar gyfer cynhyrchu ffilmiau neu raglenni teledu ac yn gyfan gwbl neu'n rhannol gynnwys llwyfannau sain neu setiau ffilm

(c) Mae'n rhaid i stiwdios cymwys fod wedi derbyn cynnydd o fwy na 50% mewn atebolrwydd NDR neu gynnydd gwerth ardrethol o fwy na 50% ers 31 Mawrth 2023. Bydd hyn yn seiliedig ar eich cadarnhad VOA diweddaraf. Y bil NDR gwirioneddol ar gyfer stiwdio yw'r un a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol perthnasol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, yn seiliedig ar werth ardrethol cyfredol y cyfleuster.

Sut i wneud cais

I gael ffurflen gais, anfonwch neges ebost i cymorthariannucymrugreadigol@llyw.cymru

 

Dogfennau ategol

Lawrlwytho nodiadau cyfarwyddyd a hysbysiad preifatrwydd yma