Ynglŷn â Chronfa Datblygu Gemau Cymru Greadigol

Nod y rhaglen ariannu hon yw cynorthwyo busnesau yng Nghymru i ddatblygu prosiectau fideo a gemau ymgolli i'w rhyddhau yn fasnachol. Mae rhwng £35,000 a £50,000 o gymorth Llywodraeth Cymru ar gael. 

Fel rhan o'ch cais, bydd angen i chi gyflwyno cysyniadau creadigol newydd gyda phrosiect arfaethedig clir a strategaeth mynediad i'r farchnad, sy'n nodi eich taith i gyflawni twf hunangynhaliol a llwyddiant masnachol yn y tymor hir.

Pwy all wneud cais?

Rydym yn chwilio am geisiadau gan fusnesau sydd â'u pencadlys yng Nghymru, ac sydd ar hyn o bryd yn creu cynnwys digidol i'w ddosbarthu'n fasnachol fel rhan o'u cynnig. Gall hyn gynnwys, cwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr a / neu bartneriaethau.

Bwriad y rhaglen ariannu hon yw annog syniadau ffres, newydd ar gyfer datblygu yn hytrach na darparu cymorth cyllid parhaus, felly ni allwn eich cefnogi os ydych wedi cael gafael ar gyllid datblygu fwy nag unwaith o'r blaen.

Cofiwch hefyd bod cefnogaeth ar gael ar gyfer gemau fideo a phrosiectau technoleg ymgolliNid ydym yn gallu cynnig cyllid i gemau bwrdd, apiau addysgol, neu gysyniadau technoleg.

Cyn gwneud cais, darllenwch y meini prawf a nodir yn ein nodiadau canllaw yn ofalus i sicrhau eich bod yn gymwys i wneud cais am gyllid.

Sut i wneud cais

Os ydych wedi darllen y meini prawf cymhwysedd a'r nodiadau canllaw yn drylwyr ac os hoffech wneud cais, gallwch ofyn am ffurflen gais drwy anfon e-bost at CreativeWalesFundingSupport@Llyw.Cymru

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys i wneud cais, anfonwch e-bost i'r cyfeiriad uchod a bydd y tîm yn cysylltu i gynnig cyngor ac arweiniad pellach. 

Beth i'w gynnwys yn eich cais

1. Cynllun prosiect clir a strategaeth ar gyfer y farchnad.
2. Prototeip gweithio neu gynnyrch sylfaenol hyfyw.
3. Cynllun busnes, rhagolwg llif arian, a chyflwyniad parod i fuddsoddwyr (gan gynnwys ffilmiau chwarae'r gem neu ei harddangos).

Beth rydyn ni'n chwilio amdano mewn cais?

1. Prawf-o-gysyniad neu ddelweddau cyn-gynhyrchu.
2. Pwynt gwerthu clir, unigryw (USP).
3. Tîm prosiect profiadol a medrus (gan gynnwys o leiaf un aelod gyda llwyddiant mewn prosiect blaenorol).
4. Ymchwil drylwyr a chynlluniau ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys cyllid yn y dyfodol.
5. Gweledigaeth glir ar gyfer twf eich stiwdio.

Pryd fydd y gronfa yn agor ac yn cau?

Rydym yn agored i ymholiadau a cheisiadau o ddydd Iau 24 Ebrill 2025.
Mae'r ffenestr ymgeisio yn cau ddydd Iau 29 Mai 2025 am 12pm.

I ofyn am gais neu gysylltu â'r tîm i ofyn cwestiwn, anfonwch e-bost at CreativeWalesFundingSupport@Llyw.Cymru