Dyna oedd nod Cyngor Llyfrau Cymru wrth ddechrau hyrwyddo darllen er pleser yng Nghymru. Wedi ei sefydlu fel elusen genedlaethol yn 1961, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi’r diwydiant cyhoeddi ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu. Maent hefyd yn rhoi grantiau ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi cyhoeddi llenyddiaeth a chylchgronau, a hynny yn Gymraeg a Saesneg.
Mae’r Cyngor Llyfrau yn cydnabod ac yn dathlu buddiannau darllen. Credant, drwy sefydlu cymuned gadarn o ddarllenwyr amrywiol, bydd ein diwydiannau creadigol yn ffynnu.
O ganlyniad, mae’r Cyngor Llyfrau yn chwarae rhan flaengar yn nyfodol cyhoeddi yng Nghymru - yn benodol, fel y corff cenedlaethol i hyrwyddo darllen er pleser yn Gymraeg a Saesneg. Dyma’r nod arweiniodd at lansio'r ymgyrch #CaruDarllen yn swyddogol yn 2017. Ond beth yw gwaith y prosiect, a sut mae’n mynd ati i’w gwblhau?
Nod #CaruDarllen yw meithrin datblygiad darllenwyr o bob oed. Mae’n mynd ati i gyrraedd y nod hwnnw trwy amrywiol ymgyrchoedd; gwobrau blynyddol fel Gwobr Tir na n-Og, sy’n dathlu’r gorau o fyd llenyddiaeth plant a phobl ifanc; a gweithgareddau a sialensiau.
Mae amcan y Cyngor Llyfrau i annog plant i ddarllen llyfrau o fewn a thu allan i’r ysgol wrth wraidd llawer o'u hymgyrchoedd #CaruDarllen.
Yn yr ysgol, mae sawl gweithgaredd a sialensiau i gymryd rhan ynddynt. Mae’r rhain yn cynnwys Bookslam - cystadleuaeth llyfrau Saesneg blynyddol, a Darllen dros Gymru - cystadleuaeth flynyddol llyfrau Cymraeg, lle gall plant cynradd ennill gwobrau i’w hysgol wrth ddarllen a thrafod llyfrau. Mae amrywiaeth o adnoddau fel taflenni gwaith a rhestrau darllen penodol ar gyfer pob cyfnod allweddol, gyda chasgliad o straeon a llyfrau ar gael i’w lawr lwytho. Yn ogystal, mae’r Cyngor Llyfrau yn gweithio mewn partneriaeth â dathliadau llyfrau ehangach, sy’n cynnwys Diwrnod y Llyfr ym mis Mawrth.
Gall plant gymryd rhan mewn sesiynau ‘Adnabod Awdur’ ble mae nofelwyr ac awduron llenyddiaeth plant yn ymweld ag ysgolion i drafod eu llyfrau.
Ar lein, mae casgliad o fideos YouTube gydag awduron cyfarwydd - gan gynnwys Manon Steffan Ros a Bethan Gwanas - sy’n trafod sut y gwnaethant ddechrau darllen, pam eu bod yn mwynhau darllen, a’u hoff lyfrau wrth dyfu fyny.
Un o brif negeseuon ymgyrch #CaruDarllen yw bod darllen yn rhan gyfoethog o fywyd bob dydd ac yn rhywbeth y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda'i gilydd. Er mwyn annog darllen y tu allan i'r ysgol, mae'r Cyngor Llyfrau yn cefnogi’r Reading Agency a Llyfrgelloedd Cymru i gynnal Sialens Ddarllen yr Haf, a ddarperir gan lyfrgelloedd cyhoeddus. Mae’n annog teuluoedd i ymweld â’u llyfrgell leol i fenthyg llyfrau, derbyn cymhellion a chwblhau’r sialens.
I oedolion, gan gynnwys y rhai sy’n isel eu hyder wrth ddarllen neu wedi colli eu harferion darllen, mae yno ymgyrchoedd fel Stori Sydyn, sy’n llyfrau byr, fforddiadwy, ac ar gael mewn ystod o themâu.
Rydym yn rhoi cefnogaeth hanfodol i’r Cyngor Llyfrau sy’n eu galluogi i ddarparu’r gwaith hollbwysig yma i blant, pobl ifanc ac oedolion ar draws Cymru. Y nod ydi y bydd yr ymgyrch yn parhau i ysbrydoli cariad at ddarllen a helpu i ehangu mynediad at ddeunyddiau darllen gydag ymgyrchoedd rheolaidd i roi llyfrau.
Eisiau gwybod mwy am waith Cyngor Llyfrau Cymru? Ewch i’w gwefan