Fy enw i yw Ross. Dw i o Plymouth ond cefais fy magu yn Wiltshire. Dw i wedi byw yng Nghymru ers 20 mlynedd, felly rwy'n Gymro anrhydeddus. Dyma ble yw adref.
Roeddwn yn y fyddin yn wreiddiol. Fe wnes i gyfuniad o fod yn filwr wrth gefn ac ambell fyddiniad llawn amser. Es i draw i’r byd ffilm a theledu ar ôl gweld neges Facebook ar gyfer yr NFTS (National Film and Television School). Roeddent yn chwilio am gyn-filwyr i ymuno â’r diwydiant.
Dw i wastad wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiant, ond roedd yn anodd cael mynediad ato yn y byd milwrol. Nod y cwrs, a ariannwyd gan Veterans in Focus ScreenSkills, Services to Film a’r NFTS, oedd dod â chyn-filwyr i mewn i’r adran leoliadau. Mae pobl yn y fyddin yn ymarferol iawn ac yn dda am ddatrys problemau. Ac rydyn ni wedi arfer bod allan ym mhob tywydd. Wnes i gais amdano ac roeddwn yn un o wyth o bobl i gael eu derbyn. Wedi hynny bûm yn gweithio ar ambell set yn yr adran lleoliadau. Y mwyaf roeddwn yn ei wneud, y mwyaf oedd yr awydd i greu rhywbeth a bwydo fy ochr greadigol.
Yn ystod y cyfnod clo pan ddaeth cynhyrchu i stop, gwelais fod yna gwrs gwneud ffilmiau dogfen NFTS - gwnes i gais amdano a’i gwblhau ar lein. Ar yr un pryd, agorodd hwb NFTS yng Nghaerdydd – roedd hynny’n gyfle da i gael mynediad at addysg fwy ffurfiol i wneud ffilmiau dogfen a storïo. Roeddwn i eisiau cymryd y cam nesaf i geisio dod yn wneuthurwr ffilmiau, ond mae gwneud ffilm yn ddrud. Yn ffodus, roedd yr NFTS yn caniatáu i chi wneud cais bwrsarïau a chefais fy nerbyn.
Dangosodd y cyrsiau ddeuddydd dwys yng Nghaerdydd imi sut i strwythuro rhaglen ddogfen i greu stori ddifyr – yn hytrach na dim ond ffilmio rhywbeth diddorol. Roedd gan ddarlithwyr y cwrs brofiad helaeth ac roeddent yn gwybod popeth am y diwydiant. Braint oedd cael y cyfle i ddysgu wrthynt.
Mae gallu cael mynediad i’r NFTS drwy’r fwrsariaeth – sef yr ysgol ffilm orau yn y wlad, neu’r byd hyd yn oed – wedi bod yn amhrisiadwy. Mae Screen Skills, Cymru Greadigol a'r NFTS yn ceisio denu pobl i'r diwydiannau creadigol gan fod galw mawr am gynnwys a sgiliau. Mae Cymru yn wlad greadigol, gydag uchelgais greadigol o fri. Mae mwy a mwy o gynyrchiadau yn dod i ffilmio yma ac maen nhw'n dod ag arian i mewn sy'n cael ei fwydo lawr i wneuthurwyr ffilm annibynnol llai fel fi.
I mi, o’r cwrs cyntaf hyd at heddiw, y prif nod oedd gorffen fy ffilm ddogfen. Mann yw enw’r ffilm, sy’n adrodd stori Jack Mann a aned yn yr Aifft i deulu Prydeinig. Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, ymunodd Jack â'r Fyddin Brydeinig yna’r Lluoedd Arbennig yn gweithio y tu ôl i linellau'r gelyn fel milwr Iddewig. Mae rhoi llais i bobl nad oes ganddyn nhw un o reidrwydd yn fy ysgogi. Mae’n caniatáu i rywun adrodd ei stori mewn ffordd sy’n addysgu, yn ysbrydoli ac yn creu ymateb emosiynol gan y gynulleidfa. Mae’n bwysig iawn ein bod yn dysgu’r straeon gan gyn-filwyr, fel nad ydym yn ailadrodd na’n colli eu profiadau.
Mae wedi cael ei gyflwyno i wyliau ffilm, gan gynnwys un yng Nghymru, ond y cam nesaf nawr yw ei ddosbarthu. Dyna’r dyhead; i roi'r ffilm allan yna fel bod pobl yn gallu ei wylio. Mae’n amser dechrau meddwl am y rhaglen ddogfen nesaf, ond y prif beth i mi oedd gwneud yr un gyntaf honno. Cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud hynny, gallwch ddweud eich bod yn wneuthurwr ffilmiau dogfen.
Eisiau datblygu eich sgiliau? Darganfyddwch fwy am gyrsiau NFTS Cymru-Wales.