Nid ar chwarae bach mae mentro i’r diwydiant gemau yng Nghymru. O brosiectau deallusrwydd artiffisial i bencampwriaethau gemau fideo, mae'r sector yn canolbwyntio ar ysgogi arloesedd gyda thechnolegau a phrofiadau arloesol. Yn y crynodeb hwn, rydym yn darganfod pedwar o'r prosiectau gorau y dylech wybod amdanynt – yn ogystal â'ch cyflwyno i'r cwmnïau a'r sefydliadau y tu ôl i'w llwyddiant.
Hedfan gyda Paradrop VR
Mae’r arloeswyr digidol, Frontgrid, wedi gosod uchelgais i’w hunain i ail-ddychmygu ac ailgynllunio sut rydym yn profi'r byd. Mae eu technoleg a'u talent arloesol yn golygu y gallant greu unrhyw amgylchedd Rhith-Realiti (VR) y gallwch ei ddychmygu.
Gyda chymorth ariannol gan ein Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol, lansiodd Frontgrid Paradrop VR – profiad Realiti Rhithwir aml-chwaraewr o dan ganopi sy'n eich gwahodd i hedfan drwy'r awyr ar antur rithwir.
Ydych chi’n gwybod pwy lofruddiodd wncwl Marcus?
Mae dau o gwmnïau mwyaf arloesol Cymru, Wales Interactive a Good Gate Media wedi lansio gêm ryngweithiol newydd sbon – Who Pressed Mute On Uncle Marcus?.
Eich tasg chi yn y gêm ddirgelwch hon yw datgelu pwy yw’r llofrudd a wenwynodd Marcus drwy holi aelodau'r teulu ar alwad fideo rithwir. Y gêm hon yw'r chweched mewn cydweithrediad rhwng Wales Interactive a Good Gate, sy'n dangos sut mae ein cwmnïau gemau yn gweithio gyda’i gilydd i lwyddo o fewn y diwydiant.
Os ydych chi am chwarae ditectif, mae'r gêm ar gael ar iOS, Android, Nintendo Switch, PC a Mac (trwy Stream), PlayStation ac Xbox.
Mynd i fyd yr anifeiliaid anwes rhithiol gyda Tiny Rebel Games
Wyt ti’n barod i fod yn berchennog ar anifail anwes rhithiol? Mae’r datblygwyr gemau a Realiti Estynedig llwyddiannus o dde Cymru, Tiny Rebel Games, wedi codi $7m i greu prosiect newydd i ni: yn cyflwyno'r Petaverse Network.
Gan groesawu potensial technolegol web3, mae Petaverse yn gosod llwyfan ar gyfer anifeiliaid anwes rhithwir. O'i fewn, gallwch fabwysiadu ffrindiau rhithiol a mynd â nhw gyda chi wrth i chi grwydro'r metaverse. Gan ddefnyddio technoleg Realiti Estynedig (AR), bydd eich anifail anwes yn tyfu, yn esblygu ac yn dysgu wrth i chi ryngweithio â nhw.
Dyma’r prosiect diweddaraf mewn cyfres o ddatganiadau gan Tiny Rebel Games, sydd â dros 20 mlynedd o brofiad mewn cynhyrchu gemau lefel uwch. Fe'u dewiswyd fel rhan o garfan ymchwil a datblygu Clwstwr yn 2021 i'w helpu i edrych ar ffyrdd o wireddu eu gweledigaeth o anifeiliaid anwes rhithwir.
RunWild Entertainment yn rhyddhau gêm chwarae rôl newydd - Almighty: Kill your Gods
Yn y diweddariad newydd hwn ar gyfer eu gemau chwarae-rôl trydydd person, mae RunWild Entertainment yn eich gwahodd i rôl milwr hudol mewn cyfuniad o ymladd a chrefft. Y gêm hon yw'r diweddaraf mewn casgliad arbennig o gemau gan y datblygwyr talentog a chreadigol o Gaerffili. Maent yn arbenigo mewn dylunio profiadau rhyngweithiol i’w rhannu a’u mwynhau, gan gynnwys gemau aml-chwaraewyr fel hon. Derbyniodd RunWild gefnogaeth ariannol gan ein Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol ar gyfer gweithredu’r prosiect hwn, gan ganolbwyntio ar ddatblygu syniadau gêm newydd.