Ni all neb yn y diwydiannau creadigol fforddio sefyll yn ei unfan. Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol, ac mae creu gofod ar gyfer meddwl newydd yn un o'n prif flaenoriaethau.
Rydym yn cefnogi amrywiaeth eang o fentrau sy'n cael effaith ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys media.cymru, gan ddod â phartneriaid o'r byd academaidd, technoleg, arweinyddiaeth leol a'r diwydiannau creadigol ynghyd i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Trwy ddarparu cyllid craidd ar gyfer y rhaglen Clwstwr, rydym wedi helpu i ddarparu ffrwd o brosiectau ymchwil a datblygu proffil uchel yn y diwydiannau creadigol.
Mae ein holl gyllid ymchwil a datblygu yn cael ei ddarparu ar yr amod bod cydraddoldeb, amrywiaeth, chynhwysiant a chynaliadwyedd yn cael ystyriaeth ganolog.
Drwy gefnogi ymchwil a datblygu, rydym yn ennyn diwylliant sy’n arloesi a chreu ecosystem greadigol o'r radd flaenaf.
Yassmine Najime: Cynhyrchydd gyda Painting Practice
O’r byd cyfreithiol i weithio gyda rhithrealiti. Dyma daith Yassmine.
Sut mae Clwstwr yn dathlu'r sector sgrîn yng Nghymru.
Dewch i ddarganfod y rhaglen sy'n helpu arloesedd i ffynnu yn niwydiant sgrîn Cymru.
Testunau:
Pedwar prosiect arloesol ar draws diwydiannau creadigol Cymru
Dewch i wybod mwy am rai o'r prosiectau sy'n ysgogi arloesedd creadigol yng Nghymru.
Testunau:
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.