Fy enw i yw Seb ac rwy'n dod o'r Rhyl. Mae’n le hyfryd i fod ac rwy’n rhan o’r gymuned yma.
Dw i’n gwneud prentisiaeth CRIW fel rhan o Sgil Cymru* ar hyn o bryd, yn cael profiad ymarferol o fewn y diwydiant ffilm a theledu yng Ngogledd Cymru. Mae’n gwrs blwyddyn, ac yn gyfle i mi gael fy nhraed o dan y bwrdd. Rwy eisiau gwneud cysylltiadau newydd a chael cymaint o brofiad â phosib trwy gydol y flwyddyn. Gobeithio erbyn y diwedd bydda i'n gallu camu mewn i'r diwydiant gan fynd a’r profiadau newydd gyda mi.
Mae gen i radd mewn ffilm o Brifysgol Bangor - graddiais yn 2017. Ers hynny, rydw i wedi gweithio yn y maes manwerthu ac fe wnes i swydd weinyddol hefyd. Pan ddaeth y brentisiaeth i’n sylw, gwelais ei bod yn cynnig profiad diwydiant i bobl yng Ngogledd Cymru. Roedd yn berffaith i rywun fel fi. Bachais y cyfle a, diolch byth, llwyddais i'w gael. Mae wedi tanio fy angerdd dros fod eisiau mynd i fyd ffilm a theledu.
Dwi wedi darganfod bod digonedd o gyfleoedd yng Ngogledd Cymru. Nid yw popeth i lawr yn y de; mae wedi dysgu cryn dipyn i mi am y diwydiant yng Ngogledd Cymru a sut mae’n gyfnod cyffrous i Gymru yn gyffredinol. Mae cymaint o wahanol gynyrchiadau y gallwch weithio arnynt. Mae Cymru yn wlad wych, ac mae’n anhygoel ei gweld yn cael ei harddangos mewn ffyrdd mor gyffrous ac amrywiol.
Y gwaith rwy'n fwyaf balch ohono yw cynhyrchiad o'r enw Chuck Chuck Baby. I ddechrau, cefais rôl fel cynorthwyydd COVID. Dechreuais siarad â'r tîm camera ac erbyn y diwrnod wedyn roeddwn yn gweithio fel cynorthwyydd camera dan hyfforddiant. Fe wnes i hynny am weddill y cyfnod saethu a chael profiad ymarferol da. Roeddwn yn gosod offer camera a’n helpu tîm camera i rigio ac ati. Dysgais lawer mewn mis. Wrth i amser fynd yn ei flaen, roeddwn i’n fwy hyderus gyda'r gwaith. Roedd yn brofiad a hanner.
Y cynhyrchiad nesaf y byddaf yn gweithio arno yw Snowdonia SOS, sy'n gyffrous. Mae’r boddhad o’i wneud yn fy ysgogi. Yn amlwg, mae’r dyddiau'n hir ond pan fydd y rhaglen yn cael ei rhyddhau gallwch werthfawrogi beth rydych chi wedi'i gyflawni a beth rydych wedi gweithio mor galed arno dros y misoedd diwethaf. Mae ei weld wedi'i gwblhau yn deimlad braf.
Os ydych chi'n ystyried ceisio mynd i mewn i'r diwydiant, byddwn i'n eich annog i gael llawer o brofiad. Yn amlwg, mae gradd yn wych, ond mae angen profiad ymarferol arnoch chi hefyd. Dyna’r un peth nad yw’r brifysgol yn ei ddysgu i chi mewn gwirionedd – manylion mân y diwydiant ffilm a theledu. Mae cyrsiau hyfforddi a phrentisiaethau fel yr un CRIW yma yn Sgil yn ddefnyddiol iawn.
Mae llawer o gefnogaeth ac adnoddau ar gael hefyd, fel Screen Alliance Wales a Screen Skills. Mi wnes i ddarganfod y brentisiaeth trwy Screen Alliance. Mae ganddyn nhw lawer o gyfleoedd efallai nad oeddech chi hyd yn oed wedi meddwl amdanyn nhw. Os ydych chi am ddilyn llwybr gyrfa benodol ym myd ffilm a theledu, gallant eich rhoi ar ben ffordd.
*Mae rhaglen brentisiaeth CRIW Sgil Cymru yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai.
Eisiau ennill profiad yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru? Darganfod mwy am raglen brentisiaeth CRIW Sgil Cymru, a gefnogir gan Cymru Greadigol.