Rydym yn lansio cronfa uwchraddio newydd mewn partneriaeth â Games UK, a fydd yn cynnig gwobrau sy'n amrywio o £50,000 i £150,000 trwy’r Cronfa Uwchraddio Gemau.
Mae'r gronfa hon wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer fusnesau datblygu gemau sydd wedi'u cofrestru a'u lleoli yng Nghymru, ar gyfer cysyniadau gemau sy'n dangos potensial cryf yn y farchnad fasnachol.
Mae’r cronfa yn agor ar 19 o Dachwedd ac yn cau am hanner dydd ar 16fed o Rhagfyr 2024.
Diben y gronfa
Mae cyllid uwchraddio yn caniatáu twf o ran cwmpas, cyrhaeddiad ac effaith, gan ei gwneud hi'n haws sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd hirdymor wrth gynyddu gwerth a dylanwad cyffredinol eich prosiect.
Mae cyllid uwchraddio yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor prosiect, gan fynd o beilot i fodel mwy sylweddol a hunangynhaliol, gan greu ffrydiau refeniw newydd a phartneriaethau cryfach ar gyfer eich busnes yn ogystal â roi hwb i'ch ymdrechion marchnata a chyfathrebu.
Sut i ymgeisio
Bydd Cronfa Uwchraddio Gemau yn cael ei weinyddu trwy UK Games Fund
Dylai ceiswyr ddarllen y meini prawf cymhwysedd a’r canllawiau ar y gronfa cyn cwblhau ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb.
Mae manylion llawn am y broses gais, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, ar gael ar wefan UK Games Fund. [nodwch, bydd y cyswllt hwn yn eich arwain at safle yn unig yn Saesneg]. Mae ceisiadau yn y Gymraeg ar gael ar gais. Cysylltwch â: TBC