Gyda mwy a mwy o ffilmiau a rhaglenni teledu yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, De Cymru yw'r prif ffocws erbyn hyn, yn enwedig o amgylch Caerdydd. Wolf Studios Wales (isod) yw'r cyfleuster modern diweddaraf sydd ar gael yng Nghaerdydd, ynghyd â Great Point—Stiwdios Seren.
Ymhellach i'r gorllewin ar hyd yr M4, mae Dragon Studios ger Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi cael eu defnyddio ar gyfer nifer o gynyrchiadau proffil uchel o’r Unol Daleithiau, gan gynnwys Brave New World NBCUniversal a chyfres Willow gan Disney+.
Mae yna hefyd nifer o safleoedd diwydiannol mawr, segur ledled Cymru y gellir eu haddasu i'w defnyddio fel gofod stiwdio.
I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd neu fanylion cyswllt gofod adeiladu/stiwdio neu unrhyw agweddau ar ffilmio yng Nghymru, cysylltwch â: Penny.Skuse@llyw.cymru
Aria Studios Ynys Môn, Gogledd Cymru
Bay Studios ger Abertawe, De Orllewin Cymru
Dragon Studios ger Pen-y-Bont ar Ogwr
Enfys Studios Caerdydd
Great Point Seren Stiwdios Caerdydd
Wolf Studios Wales Caerdydd