Cyflwyniad
Cyflwyno Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Senedd Cymru Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw (Rhagfyr 2020) nifer o ganfyddiadau ac argymhellion a fyddai'n helpu i roi hwb i'r sector yn y tymor hir.
Un o argymhellion allweddol yr adroddiad oedd gwneud darn o ymchwil i fapio diwydiant cerddoriaeth Cymru, gan ganolbwyntio ar leoliadau cerddoriaeth fyw, stiwdios recordio a mannau ymarfer.
Diolch i'r Athro Paul Carr (Prifysgol De Cymru), tîm y prosiect mapio lleoliadau cerddoriaeth (Dr Patrycja Rozbicka, Prifysgol Aston, Dr Mat Flynn a Dr Richard Anderson, Prifysgol Lerpwl, Dr Adam Behr, Prifysgol Castell Newydd, Dr Martin Nicastro, Prifysgol Pavia, a Dr Craig Hamilton, Prifysgol Dinas Birmingham), Dr James Rendell (Prifysgol De Cymru), a myfyrwyr BA Busnes Cerddoriaeth o'r Brifysgol De Cymru a weithiodd gyda Cymru Greadigol i ddatblygu'r map digidol hwn.
Isod fe welwch ddolen i gael mynediad i'r map, yr adroddiad cysylltiedig gan yr Athro Carr ac adroddiad Senedd Cymru. Ymhellach ymlaen gallwch hefyd weld Cynllun Addysg Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu cyd-destun ehangach ynghylch ein nodau strategol.
Os ydych yn lleoliad sydd wedi'i gynnwys ar y map digidol a'ch bod yn sylwi ar rhywbeth y mae angen ei ddiweddaru, neu os hoffech gael eich ychwanegu, rhowch wybod i ni trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen.