Mae'r diwydiant sgrîn yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer cynyddol o gynyrchiadau mawr yn dewis strydoedd, mynyddoedd a stiwdios Cymru fel eu lleoliadau ffilmio. Mae rhain yn cynnwys His Dark Materials, Willow, The Almond and the Sea Horse, Y Golau a Havoc. Mae hi’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r diwydiant yng Nghymru.
Os ydych am gamu mewn i fyd ffilm a theledu neu os ydych am wella sgiliau eich gweithlu, mae'n werth ystyried y cyfleoedd yma o fewn y sector sgrîn. Rhowch hwb i’ch gyrfa gyda'n cyfres o fentrau gan dri phartner rydym yn eu cefnogi yn niwydiant ffilm a theledu Cymru.
Cyswllt Diwylliant Cymru
Mae Cyswllt Diwylliant Cymru yn rhaglen sy'n cael ei rhedeg gan ac er mwyn y gymuned. Ei nod yw creu gofod ar gyfer talent amrywiol yn y sector sgrîn yng Nghymru. Maent wedi ymrwymo i greu a chynyddu cyfleoedd i gymunedau amrywiol Cymru. Er mwyn gwneud hynnny, maent yn hyrwyddo swyddi a chyfleoedd ac yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc ar sut i ymuno â'r sector. Maent hefyd yn awyddus i helpu'r rhai sydd eisoes yn y diwydiant i ddod o hyd i'w rôl nesaf.
Mae'r prosiect cyffrous hwn yn cael ei redeg gan Watch Africa Cymru ac yn cael ei gefnogi gan Cymru Greadigol. Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Channel 4. Os oes gennych ddiddordeb yn Cyswllt Diwylliant Cymru yna crwydrwch eu safle i ddod o hyd i brosiect i’ch siwtio chi – maent yn cynnig ystod eang o gyfleoedd, o gyrsiau i swyddi.
Darllen mwy: Cyswllt Diwylliant Cymru.
Sgil Cymru
Os ydych chi’n edrych am gwrs neu brentisiaeth - Sgil Cymru yw’r lle i chi. Wedi ei leoli yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd, mae Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 prentis dros y blynyddoedd. Ar hyn o bryd, maent yn darparu tri math gwahanol o brentisiaethau sy’n cynnwys lefel tri mewn cyfryngau creadigol a digidol; lefel pedwar uwch mewn cyfryngau creadigol a digidol (cyfryngau rhyngweithiol); a lefel pedwar uwch mewn cyfathrebu hysbysebu a marchnata.
Un o'r cynlluniau sydd ar gael yw cynllun cynhyrchu CRIW, sy'n ennill cymhwyster lefel tri mewn cyfryngau creadigol a digidol. Gyda’n cefnogaeth ni, mae'r cynllun 12 mis hwn yn fodel newydd ar gyfer prentisiaeth ar y cyd sy'n darparu gwaith cyflogedig ar amrywiaeth o gynyrchiadau gwahanol. Mae prentisiaid blaenorol wedi gweithio ar gynyrchiadau fel Casualty, Y Golau / The Light, War of the Worlds 3, Craith/Hidden a Havoc.
Maent hefyd yn cynnig cyrsiau pwrpasol i'r rhai sydd eisoes yn y diwydiant sydd am wella eu sgiliau neu symud i rôl newydd. Rydym yn ariannu menter hyfforddi Camu Fyny ar y cyd â ScreenSkills. Mae’r fenter yn helpu gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen neu newid cyfeiriad yn eu gyrfa. Maen nhw'n cynnig cyfleoedd gwella sgiliau i'ch helpu i lenwi unrhyw fylchau sgiliau, gyda’r nod o gefnogi unigolion sydd eisiau gyrfa mewn ffilm a theledu yng Nghymru.
Darllen mwy: Sgil Cymru
NFTS Cymru Wales (National Film and Television School)
Mae’r National Film and Television School (NFTS) yn un o ysgolion ffilm mwyaf blaengar y byd. Gyda chefnogaeth a chyllid Cymru Greadigol, llwyddodd NFTS i lansio canolfan yng Nghymru – NFTS Cymru Wales. Wedi'i leoli yn adeilad BBC Cymru yng Nghaerdydd, mae NFTS Cymru Wales yn cynnig cyrsiau byr, cyrsiau rhan-amser a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Boed chi’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa neu’n camu mewn i’r diwydiant am y tro cyntaf, mae gan y sector ffilm a theledu Cymreig gyfleoedd i chi.
Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau ac i annog cynyddu amrywiaeth a chydraddoldeb yn y sector sgrîn, mae'r cynllun hefyd yn cynnig bwrsariaethau wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol ar gyfer pob cwrs.
Mae cyrsiau'n rhedeg drwy gydol y flwyddyn, felly peidiwch â phoeni os na allwch ddechrau un ar hyn o bryd. Gallwch wastad ddod yn ôl eto i weld beth sydd ar gael ym mhen ychydig fisoedd.
Darllen mwy: Cyrsiau NFTS