Beth yw Sinema Cymru?
Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng Cymru Greadigol, S4C a Ffilm Cymru i gefnogi ffilmiau Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol.
O dan raglen Sinema Cymru, bydd o leiaf tair ffilm yn cael eu datblygu bob blwyddyn, gydag bwriad o un o’r ffilmiau hynny’n cael ei dewis ar gyfer cyllid cynhyrchu.
Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map a helpu ffilmiau Cymraeg annibynnol sy’n feiddgar, yn anghonfensiynol ac sydd â’r potensial i gael eu rhyddhau mewn sinemâu yn rhyngwladol. Mae’r rhaglen yn awyddus iawn i hyrwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli wrth bortreadu’r Gymraeg a gwthio ffiniau o ran yr hyn rydym yn ei alw’n ffilm Gymraeg.
Mae Sinema Cymru yn rhaglen datblygu talent ac yn gronfa ffilmiau ac mae’n gweithio gyda thimau creadigol i greu cynlluniau datblygu gyrfa pwrpasol yn ogystal â chymorth prosiect.
Meini prawf cymhwysedd
- Bydd tair ffilm yn cael eu dewis i’w datblygu bob blwyddyn.
- Rhaid i’r ceisiadau gynnwys prif awdur, cyfarwyddwr neu gynhyrchydd sy’n enedigol o Gymru neu wedi’i leoli yng Nghymru (ond nid oes angen llenwi pob rôl adeg gwneud y cais)
- Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad perthnasol o weithio yn y diwydiannau creadigol. Nid ydym yn disgwyl i holl aelodau craidd y tîm fod â phrofiad o’r sgrin, ond yn y pen draw byddwn yn chwilio am gydbwysedd o brofiad ar draws aelodau’r tîm.
- Nid oes angen i bob aelod o’r tîm ysgrifennu, cyfarwyddo a chynhyrchu fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl – gallwn hyd yn oed gynnig cymorth ar gyfer gwersi Cymraeg i unigolion er mwyn gwella eu gallu yn y Gymraeg, yn enwedig ysgrifennu yn Gymraeg.
- Dylai ffilmiau fod yn ymarferol o fewn cyllideb o lai na £2 filiwn (ond dim llai na £350,000)
- Bydd timau’n cael cynnig hyd at £30,000 ar gyfer y cyfnod datblygu, gyda’r potensial am ragor o gymorth ariannol, a byddant wedyn yn cael cyfle i ennill comisiwn gwerth £1 miliwn gan S4C a hyd at £600,000 gan Cymru Greadigol. Mae cyllid Cymru Greadigol ar gyfer y rhaglen yn cael ei reoli gan Ffilm Cymru. Gall y cynhyrchydd gymhwyso gwerth credyd Treth y DU i’r swm hwn i gynyddu’r gyllideb cynhyrchu sydd ar gael ymhellach.
- Bydd angen i dimau sicrhau bod digon o amser i fodloni amserlenni’r cynllun, gyda’r nod o sicrhau bod un prosiect yn cael ei gynhyrchu o fewn blwyddyn.
- Bydd bwrsariaethau ar gael hefyd i gefnogi’r ymrwymiad amser hwn ac i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau eraill sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn y cynllun. Er enghraifft, gallwn gynnig cymorth gyda chostau megis gofal plant neu gyfieithydd ar y pryd.
- Bydd timau hefyd yn cael pecyn cymorth pwrpasol ar gyfer elfennau fel mentora neu bresenoldeb yn y farchnad a fydd yn cefnogi’r broses o ddatblygu eu gyrfa a’u ffilm.
Sut i ymgeisio
Mae'r gronfa hon yn cael ei gweinyddu drwy Ffilm Cymru. Am fwy o wybodaeth, ac i lawrlwytho ffurflen cais, ewch i'w gwefan.