Mae Hollowpixel Studio wedi'i leoli yn CultVR Labs Caerdydd, o dan arweiniad y ddeuawd dalentog Chris McFall a Jonathan Lloyd James. Animeiddio a FX yw eu harbenigedd, ac maent yn canolbwyntio ar greu sioeau o ansawdd uchel sy'n cael eu llywio gan gymeriadau, gan apelio at bob grŵp oedran.
Fe wnaeth Chris a Jonathan gyfarfod dros ddegawd yn ôl pan oedd y ddau yn astudio ar gyfer eu graddau meistr. Bryd hynny, roeddent yn gweithio ar brosiectau ar wahân, ond roeddent bob amser yn gwybod eu bod am weithio gyda'i gilydd yn y dyfodol. Rhoddodd cyllid datblygu Cymru Greadigol y cyfle cyntaf i Chris a Jonathan wneud hynny ac aethant ati i gydweithio ar “Ungameland” ynghyd â Jon Ball o Poked Studio. Fe wnaeth eu partneriaeth weithio cystal nes iddynt benderfynu ei wneud yn barhaol, gan ddechrau ‘Hollowpixel Studios’.
Mae'r berthynas rhwng Hollowpixel a thîm Cymru Greadigol wedi parhau, gyda Hollowpixel yn cael gafael ar gymorth pellach a alluogodd brosiect ‘The Codelings’. Gan ddefnyddio cyllid datblygu Cymru Greadigol fe wnaethant greu rhagflas ar gyfer Codelings, stori sy’n llawn cyffro ac emosiwn, comedi a drama, wedi'i dylunio ar gyfer plant ond sy’n apelio at oedolion hefyd. Llwyddodd Hollowpixel i greu ei eiddo deallusol (IP) gwreiddiol ei hun drwy'r prosiect, gyda'r nod o greu cyfres animeiddiedig gyda photensial ar gyfer llwyddiant masnachol mawr. Yn ddiweddar, cafodd y cwmni gymorth gan Lywodraeth Cymru i fynd i uwchgynhadledd Kids Screen yn Miami i arddangos Codelings yn rhyngwladol.
Wrth weithio ar Ungameland a Codelings, fe wnaethant ddarganfod bod diffyg gwirioneddol o ran animeiddwyr wedi'u hyfforddi yn y feddalwedd yr oeddent yn ei defnyddio o'r enw Blender 3D. Yn dilyn trafodaethau gyda chwmnïau eraill yng Nghymru, yn y DU a ledled y byd, fe wnaethant ddarganfod eu bod i gyd yn wynebu'r un broblem. Erbyn hynny, roedd Chris wedi datblygu’n un o'r hyfforddwyr Blender gorau yn y wlad gan weithio gydag NextGen Skills Academy a Blue Zoo ac aethant ati i lenwi'r bwlch sgiliau hwn a chreu cyfleoedd i eraill.
Llwyddodd Hollowpixel i sicrhau cymorth drwy gronfa Sgiliau Cymru Greadigol ac fe wnaethant lansio Hollowpixel Academy - cydweithrediad â Choleg Gŵyr sydd wedi hyfforddi 6 o bobl greadigol newydd ym maes Blender 3D. Y prentisiaethau 12 mis hyn, a gaiff eu talu'n llawn, yw'r cyntaf o'u math yng Nghymru a'r prentisiaethau cyntaf yn y byd sy'n canolbwyntio ar Blender.
Roedd y cwmni am greu cyfle i unigolion a oedd yn dymuno astudio animeiddio ond nad oeddent o bosibl yn gallu cael mynediad i brifysgol, er mwyn creu gweithlu gwirioneddol amrywiol sy'n arbenigo mewn Blender a dyna'n union sydd ganddyn nhw nawr.
Mae'n drawiadol pa mor bell y mae eu myfyrwyr academi wedi dod mewn cyfnod mor fyr, ac mae hynny’n destun balchder mawr i Chris a Jonathan. Ar hyn o bryd mae graddedigion yr academi yn gweithio ar eu prosiect cyntaf ar y cyd o'r enw, “Gastronauts” ac unwaith y bydd wedi'i gwblhau, maent yn edrych ymlaen at ei ddangos mewn Nosweithiau Animeiddio Caerdydd yn y dyfodol.
Mae Chris a Jonathan yn awyddus i ddiolch i'w cyd-gwmnïau animeiddio yng Nghymru, sef Cloth Cat, Bomper Studios a Jammy Custard sydd wedi 'eu cefnogi yn ddi-ben-draw’ ar hyd y daith. Maen nhw'n teimlo bod y diwydiant animeiddio yng Nghymru fel teulu.
Mae'n argoeli i fod yn flwyddyn anhygoel arall i Hollowpixel gyda llawer o bethau cyffrous ar y gweill. Cafodd ‘Order of the Dragon’ wobr y ffilm fer ryngwladol orau yng Ngŵyl Ffilm Marina del Rey, Los Angeles. Mae prosiectau yn y dyfodol yn cynnwys: ymuno â Poked Studios eto, prosiect posibl o amgylch cyfres o lyfrau a ysgrifennwyd gan Ndidi Spencer, ac maent yn gobeithio y bydd trafodaethau cynnar gyda'r BBC ynghylch Codelings ac Ungameland yn arwain at bethau mwy cyffrous. Gwyliwch y gofod hwn.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i'ch busnes creadigol, ewch i’r adran Ariannu a Chefnogaeth.