Fis Awst 2024, bydd yr addasiad ffilm wedi’i animeiddio o Kensuke’s Kingdom gan Michael Morpurgo yn cyrraedd ein sgriniau. Bydd pawb sydd wedi gwirioni ar y llyfr a gyhoeddwyd yn 1999 yn cofio stori Michael – bachgen deg oed sy’n syrthio dros ochr y cwch wrth hwylio o amgylch y byd gyda’i rieni.

Mae’r gyfrol wedi cael ei haddasu i’r sgrin gan yr Awdur Plant Llawryfog Frank Cottrell-Boyce, sydd wedi’i enwebu am wobrau BAFTA yn y gorffennol. Mae’r ffilm eisoes wedi ennill sawl gwobr yn y diwydiant, gan gynnwys tair o wobrau yn y British Animation Awards.

Mae’n siŵr y bydd gwylwyr yn adnabod lleisiau’r cast sy’n orlawn o sêr – Sally Hawkins, Cillian Murphy, Raffey Cassidy, Aaron MacGregor a Ken Watanabe. Ond efallai na fyddan nhw’n ymwybodol o gysylltiadau Cymreig y ffilm.

Creu Kensuke’s Kingdom

Yn ôl yn 2020, fe ddechreuon ni roi hwb i’r prosiect animeiddio drwy roi hyd at £100,000 i Lupus Films  Lupus FilmsFfurfiodd y cwmni cynhyrchu o Lundain bartneriaeth wedyn â Bumpybox y cwmni animeiddio o Gaerdydd, er mwyn helpu i adrodd stori antur Michael

Sefydlwyd Bumpybox yn 2016 gan Sam Wright, Leon Dexter a Toke Jepsen – grŵp o ffrindiau a fu’n astudio Animeiddio Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol De Cymru  Mae gan y cwmni stiwdio animeiddio sy’n arbenigo mewn CGI (delweddau wedi’u cynhyrchu â chyfrifiadur), cyfosod 2D ac animeiddio cymeriadau 3D.

 

Roedd gan y ddwy asiantaeth berthynas ers tro ar ôl gweithio gyda’i gilydd ar brosiectau eraill. Wrth weithio ar eu cyfres lwyddiannus My Petsaurus ar gyfer CBeebies, cafodd Bumpybox alwad gan Lupus Films yn gofyn a fyddai gan y tîm ddiddordeb mewn gweithio ar Kensuke’s Kingdom.

‘Roedd Lupus Films – sy’n gwmni cynhyrchu profiadol tu hwnt – yn dangos cryn ffydd ynom ni yn gofyn hynny,’ meddai Sam o Bumpybox. ‘Roedd hi’n braf cael y cadarnhad hwnnw ganddyn nhw; rydyn ni’n gwybod pwy ydych chi, ac rydyn ni’n ymddiried ynoch chi wneud prosiect mor fawr i ni.’

Michael sees the view from Kensuke's treehouse for the first time

Gwyliwch y ffilm hyrwyddo

Lupus Films

I Lupus Films, roedd sawl rheswm dros fod eisiau gweithio gyda’r tîm yn Bumpybox eto.

Cawson ni brofiad ardderchog yn gweithio gyda rhai o dîm Bumpybox ar ein ffilmiau eraill, gan gynnwys y Cynhyrchydd Sam Wright a’r Prif Gyfosodwr Neil Martin,’ meddai Camilla Deakin, Cynhyrchydd yn Lupus Films.

Roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm hynod o greadigol a phroffesiynol, ac y byddai cael eu tîm o gyfosodwyr yng Nghaerdydd – sy’n go agos ar drên o’n stiwdio ni yn Llundain – yn fantais aruthrol.

Roedd y cyfle i ehangu eu gorwelion artistig a thechnegol yn eu cyffroi nhw hefyd; roedd hynny’n fuddiol tu hwnt i’r cyfarwyddwr Neil Boyle a Kirk Hendry ac i’n cyfarwyddwr celf o Gaerdydd, Michael Shorten.’

Cyfraniad Bumpybox at yr animeiddio

Fel rhan o’r prosiect, Bumpybox oedd yn gyfrifol am yr holl elfennau CGI, y rhan fwyaf o’r gwaith cyfosod, a’r inc a’r paent, sef y lliw yn yr animeiddiad.

Meddai Sam, ‘Roedd gennyn ni dîm o tua 24 o bobl yn gweithio ar Kensuke’s Kingdom mewn gwahanol swyddi. Fi oedd y prif gynhyrchydd, ac roedd gennyn ni brif gydlynydd cynhyrchu, prif artist CG, prif animeiddiwr CG, prif gyfosodwr, cyfarwyddwr technegol, a phrif artist inc a phaent.

Ac wedyn mae tîm o bobl y tu ôl i bob un o’r rhain. Roedd gennyn ni lawer o hyfforddeion yn gweithio ar yr elfennau inc a phaent, cyfosod a CGI. I lawer o bobl sy’n gweithio yn Bumpybox, hon oedd eu ffilm nodwedd gyntaf nhw.

‘Roedd hyd a maint y cynhyrchiad yn golygu y gallen ni benodi pobl yn syth o’r brifysgol. Erbyn iddyn nhw orffen gweithio, roedd ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o’r broses o weithio ar ffilm nodwedd. Aeth y rhan fwyaf o’r hyfforddeion yn syth i weithio mewn llefydd eraill, ac mae hynny’n anhygoel.’

I Sam a’r tîm yn Bumpybox, mae gweld fersiwn derfynol rhywbeth maen nhw wedi bod yn gweithio mor galed arno am ddwy flynedd yn brofiad cyffrous.

Fe gawson ni ddangosiad i’r criw ar ddechrau 2023,’ meddai Sam. 'Fe wnaethon ni rentu sinema fechan ym Mae Caerdydd i’w gwylio hi gyda’n gilydd. Mae hi’n sicr yn werth chweil gweld enwau pobl rydych chi’n eu hadnabod – ac enwau’r hyfforddeion yn enwedig – ar y glodrestr, a gweld yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth.’

Sam at work at Bumpybox
Sam from Bumpybox working on Kensuke's Kingdom

Cyllid a chymorth i’r diwydiant animeiddio  

Mae Sam yn credu ei bod hi’n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r diwydiant animeiddio yng Nghymru, ond mae’n cydnabod bod angen buddsoddi yn y tymor hir.

‘Drwy gael mwy o brosiectau fel Kensuke, nid yn unig yn ein cwmni ni ond mewn cwmnïau animeiddio lleol eraill, bydd modd cryfhau’r sector,’ meddai.

I Camilla a Lupus Films, roedd y cyllid a gawson nhw gan Cymru Greadigol yn hollbwysig i roi hwb cychwynnol i’r prosiect. ‘Roedd y cymorth gan Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales yn hollbwysig i sicrhau sefyllfa ariannol Kensuke’s Kingdom,’ esbonia.

‘Dydy hi ddim yn hawdd cyrraedd y cam cynhyrchu wrth greu ffilm uchelgeisiol ac annibynnol sydd wedi’i hanimeiddio, a’r lluniau wedi’u tynnu â llaw. Ond gwelodd Cymru Greadigol rinwedd artistig y ffilm a’r cyfleoedd creadigol ac economaidd i gryfhau’r bartneriaeth rhwng ein stiwdio ni a Bumpybox yng Nghaerdydd.’

Bydd Kensuke’s Kingdom yn ymddangos yn sinemâu’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar 2 Awst 2024.

I ddarllen mwy am sefyllfa’r diwydiant animeiddio yng Nghymru, o’r prosiectau diweddaraf i gyfweliadau ag arbenigwyr, ewch i’r adran am animeiddio ar ein gwefan

 

Gwrando i’r trac sain

Darganfod trac sain hardd Kensuke’s Kingdom, gallwch hefyd wrando ar blatfformau eraill yma

Straeon cysylltiedig