Diben y Gronfa
Calon ein diwydiannau creadigol - ffilm a theledu, animeiddio a gemau - yw'r bobl dalentog sy'n eu sbarduno. Cafodd y gronfa hon ei chreu i feithrin talentau, rhai sy'n bod a rhai newydd, i helpu pobl greadigol i hyfforddi, i wella'u sgiliau ac i arallgyfeirio, yn benodol yn ein 10 maes blaenoriaeth.
Gallwn ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar un neu fwy o'r blaenoriaethau canlynol:
- Hyfforddiant Busnes ac Arweinyddiaeth
- Cefnogi Talentau
- Recriwtio Amrywiaeth a Recriwtio Cynhwysol yn Well
- Lleoliadau a Chyfleoedd Lefel Mynediad
- Lleoliadau a Chyfleoedd i Wella Sgiliau
- Addysg a'r Cwricwlwm Newydd
- Ymwybyddiaeth o Yrfaoedd
- Arloesi
- Pontio’r Bwlch rhwng Addysg Bellach/Uwch a’r Diwydiant
- Lles y Gweithlu a Chefnogaeth i Weithwyr Llawrydd
Mae'r cylch cyllido hwn yn blaenoriaethu prosiectau sy'n llenwi bwlch sgiliau o fewn y sectorau sgrin, cerddoriaeth, animeiddio, gemau a thechnoleg drochi (immersive tech). Am enghreifftiau o fewn pob sector, darllenwch y canllawiau.
Rydym yn benodol yn croesawu cyflwyniadau gan ddarparwyr hyfforddiant ar gyfer prosiectau sy’n cyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau o ran datblygu gweithlu sydd wirioneddol yn amrywiol ac yn gynhwysol, gan gynnwys pobl dalentog sy’n medru’r Gymraeg, ar draws y sectorau sgrin, cerddoriaeth, a gemau a thechnoleg ymgolli yng Nghymru.
Pwy sydd gallu gwneud cais?
Gallwch wneud cais os ydych yn sefydliad / busnes sydd a hanes o gynnal prosiectau sgiliau a hyfforddi o ansawdd uchel yn y diwydiannau creadigol.
Os hoffech drafod a ydych yn gymwys i wneud cais – cysylltwch â'n tîm am gyngor CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru
Mae hyd at £125,000 ar gael ar gyfer pob prosiect a gall y gronfa gefnogi'ch prosiect am hyd at 2 flynedd.
Sut i ymgeisio
Cyn gofyn am ffurflen gais, darllenwch y canllawiau yn ofalus.
Mae'r gronfa'n agor ar 14th Mawrth, a bydd yn cau i geisiadau ar 10th Mai 2024 am 12.00pm.
I gael ffurflen gais, anfonwch neges e-bost i cymorthariannucymrugreadigol@llyw.cymru
Pwysig: Grant cystadleuol yw hwn ac ni chaiff pob cais ei gymeradwyo. Peidiwch â dechrau'ch prosiect nes bod eich cais wedi'i gymeradwyo a'ch bod wedi cael llythyr cynnig.