Yn y chwe mis rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023, croesawyd Hwyluswyr Lles arbennig i 10 cwmni cynhyrchu ledled y wlad i ofalu am iechyd meddwl y criw a’r cast.
Hwn oedd cam cyntaf rhaglen beilot a ariannwyd gan Cymru Greadigol ac a gyflwynwyd trwy bartneriaeth rhwng CULT Cymru, partneriaeth rhwng yr undebau creadigol Bectu, Equity, Undeb y Cerddorion a’r Writers Guild, ac arbenigwyr iechyd meddwl a lles 6ft from the Spotlight CIC.
Ym mis Mai 2023, oherwydd ei llwyddiant, cyhoeddwyd fod y rhaglen beilot yn cael ei ymestyn. Sicrhaodd hyn gyllid ychwanegol i recriwtio chwe hwylusydd lles newydd o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol – gan gynnwys pobl o gefndiroedd mwyafrif byd-eang, pobl anabl a’r gymuned LHDTC+.
Hyd yma, mae’r peilot wedi gweld cwmnïau cynhyrchu mawr a bach, Saesneg a Chymraeg, yn manteisio ar y gefnogaeth.
“Mantais y rhaglen hon yw ei bod yn lleihau’r stigma ynghylch iechyd meddwl a lles,” meddai Siân Gale, Rheolwr Sgiliau a Datblygu CULT Cymru.
“Dangosodd y cam cyntaf i ni fod cael Hwylusydd Lles yn amlygu materion sensitif mewn sgriptiau wedi helpu i dynnu sylw’r cast, y criw a’r rheolwyr at bwyntiau trafod a allai fod yn anodd i unigolion.
“Fe ddysgon ni hefyd, gyda Hwylusydd Lles o gwmpas, fod pobl ar gynyrchiadau yn fwy hyderus wrth godi materion, yn aml materion lles cymharol hawdd eu datrys – oherwydd anhysbysrwydd y Hwylusydd Lles. Pethau fel mynediad i doiledau, cyflenwad o ddillad tywydd gwlyb, ac ati.
“Dangosodd y peilot i ni bod gallu lleisio pryderon am ymddygiad gwael yn helpu i leddfu problemau.”
Pam fod angen Hwyluswyr Lles yn y lle cyntaf? Dangosodd arolwg gan The Film and TV Charity (Mental Health in the TV & Film Industry 2022 – Three Years On) fod 83% o’r rhai a holwyd yn dweud bod y diwydiant wedi cael effaith negyddol ar eu lles.
Er bod 80% o’r rhai a holwyd hefyd wedi nodi eu bod wedi teimlo “newid cadarnhaol” mewn ymddygiad a diwylliant sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles o gymharu â thair blynedd yn ôl, mae’n amlwg bod dal angen cefnogi gweithlu’r sector yn well.
“Nid rhedeg cyrsiau un-tro yw’r nod,” eglura Siân, “ond cefnogi ac addysgu’r diwydiant a gweithio’n galed i gydweithio ag eraill i sicrhau newid diwylliannol yn y sector.”
Y realiti ar y set
Mae’r Hwylusydd Lles yn ymgysylltu â’r gweithlu cyfan ar gynhyrchiad – o’r criw i’r cast i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau ôl-gynhyrchu – yn ogystal â’r cwmnïau eu hunain.
“Mae’n rôl dwy ran,” eglura Siân, “y peth cyntaf mae Hwyluswyr Lles yn ei wneud yw meithrin perthynas â’r cwmni cynhyrchu a chynnal asesiad risg gyda nhw i amlygu unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r cynhyrchiad – pethau all fod yn heriol i’r timau.”
Yna mae’n rôl gefndirol dawelech, lle bydd yr Hwylusydd Lles yn meithrin perthynas gyda’r gweithlu, eglura. Mae pob trafodaeth yn gwbl gyfrinachol.
“Gall yr hwylusydd lles hefyd weithio o bell am ddiwrnod,” meddai Siân, “ac mae pobl yn cael eu hannog i gysylltu â nhw gydag unrhyw broblemau.
“Mae’n rôl sy’n cefnogi’r cyflogwr a’r gweithiwr yn ddiduedd ac yn gyfrinachol.”
Gosod y safon
Mae Rhian Jones yn artist, rheolwr prosiect, cynhyrchydd creadigol a hwylusydd gweithdai gyda 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol. Cafodd Rhian ei dewis fel rhan o’r garfan gyntaf o hwyluswyr lles yn 2022. Ar ôl cael hyfforddiant i fod yn hwylusydd lles, mae hi wedi gweithio ar bedwar cynhyrchiad hyd yn hyn. Mae hyfforddiant, sy'n cynnwys modiwlau fel Asesiadau Risg Iechyd Meddwl a Diogelu, yn cael ei gyflwyno trwy CULT Cymru a 6ft from the Spotlight.
“Mae’n bwysig bod pobl yn cael eu hyfforddi’n iawn,” eglura. “Mae CULT Cymru yn rhedeg yr hyfforddiant gyda 6ft from the Spotlight – sydd wastad ar ochr arall y ffôn rhag ofn i mi ddod ar draws sefyllfa anodd. Mae gen i hyfforddiant da iawn ond dydw i ddim yn gwnselydd neu’n therapydd cymwysedig – fy ngwaith i yw gwrando, a chyfeirio pobl i ble rydw i’n meddwl y gallan nhw gael mwy o help.”
Rôl hwylusydd lles yw cefnogi’r tîm, meddai, ond wrth wneud hynny mae’n aml yn dod yn gynrychiolaeth weledol o ymrwymiad y cwmni i’w gweithwyr.
“Mae cael hwylusydd lles ar y set yn arwydd clir bod y cwmni cynhyrchu yn cymryd iechyd meddwl o ddifrif. Fy ngobaith, a gobeithion fy nghydweithwyr, yw, fel cydlynwyr agosatrwydd, y bydd hwyluswyr lles yn dod yn aelodau rheolaidd o’r criw. Mae’n gosod y bar yn uchel – a hefyd yn cyfleu pa lefel o ymddygiad yr ydym yn ei ddisgwyl yma yng Nghymru.
Mae maint a natur y diwydiant yng Nghymru yn addas ar gyfer gweithredu yn hyn o beth, meddai.
“Y peth gwych am Gymru yw ei bod hi’n ddigon bach, ac yn ddigon ystwyth, i ni wneud y penderfyniadau hyn a’u rhoi ar waith. Mae'r enwau mawr yn y diwydiant wedi ymuno, ac mae mwy ohonynt yn awyddus i wneud. Mae’n wych i’w weld.”
Am fwy o wybodaeth am raglen beilot yr hwylusydd lles, neu i wneud cais, ewch i wefan CULT Cymru.
“Mae cael hwylusydd lles ar y set yn arwydd clir bod y cwmni cynhyrchu yn cymryd iechyd meddwl o ddifri"
Rhian Jones, Hwylusydd lles