Adam Knopf
Daf James sits outside a double front door on some steps

"Momentwm yw’r prif beth wrth wneud swydd cynhyrchydd. Mae angen rhywun i yrru pob cynhyrchiad yn ei flaen, ac rydw i’n teimlo mai dyna ran bwysicaf fy ngwaith i. Hwylusydd ydw i; rydw i’n helpu i ddod â gweledigaeth y cyfarwyddwr a’r awdur i’r sgrin. Mae helpu i ddewis y trac sain yn rhan o hynny. 

Yn achos Lost Boys & Fairies, roedd tair elfen gerddorol wahanol: traciau masnachol, perfformiadau, a’r sgôr. 

Ochr yn ochr â’r traciau penodol roedd Daf [yr awdur] wedi’u sgriptio, aeth y cynorthwywyr golygu a finnau ati i greu rhestr chwarae o ganeuon a allai fod yn addas yn ein tyb ni i glwb hoyw fel Neverland. Fe geision ni gael cynifer o artistiaid cwiar â phosibl. 

Dyma ni wedyn yn rhoi’r rhestr chwarae honno i’r golygydd a’r cyfarwyddwr. Aethon nhw ati i benderfynu pa ganeuon roedden nhw’n eu hoffi ar gyfer golygfeydd penodol: weithiau tempo’r trac fyddai’r peth, weithiau byddai’r elfen leisiol yn cyd-fynd â naws y foment dan sylw. Os oedden ni’n teimlo bod gormod o’r un artist neu y byddai hi’n anodd cael caniatâd, bydden ni’n ailfeddwl. Drwy gael caniatâd, rydyn ni’n golygu trafod â goruchwyliwr cerdd, sy’n gwneud yr holl waith cyfreithiol i sicrhau bod modd cael cytundeb a bod yr artistiaid yn cael eu talu ac yn cael contract er mwyn i’w caneuon ymddangos yn y penodau. 

Pe bai angen i ni newid unrhyw ganeuon, bydden ni’n dod o hyd i rai eraill oedd yn cyd-fynd â’r curiad a’r dawnsio yn yr olygfa, ac â’r gerddoriaeth o’r cyfnod hwnnw. Dyma wedyn anfon dau neu dri opsiwn ar gyfer pob un i Daf ac i James, y cyfarwyddwr, i’w cymeradwyo. Profiad sy’n golygu cydweithio yw hwn.

Nid yn unig roedd gan Daf ran fawr i’w chwarae wrth ddewis y gerddoriaeth yn y sgript, ond Daf hefyd oedd y cyfarwyddwr cerddorol. Mae Daf yn ysgrifennu’n gerddorol; mae’i olygfeydd yn delynegol ac yn llawn tempo. Mae’n awdur anhygoel yn hynny o beth.

Mae’r sioe ei hun yn gyforiog o emosiynau, ac mae’r gerddoriaeth yn adlewyrchu hynny mewn cynifer o ffyrdd. Yn achos y perfformiadau, fe allwch chi ddisgwyl caneuon teimladwy sy’n gwneud i chi wenu neu lefain; mae rhai ohonyn nhw’n dod â dagrau go iawn i’r llygaid. Ar gyfer y sgôr, mae gennyn ni gyfansoddwr o’r enw Peter Gregson. Mae’i gerddoriaeth yn dyrchafu’r golygfeydd ac yn gwneud i’r ergydion daro’n galetach. Ac wedyn mae gennyn ni’r caneuon parti cwiar poblogaidd ar gyfer y golygfeydd yn y clwb. 

Yn achos y traciau i’w perfformio, fe gadwon ni bethau yn lleol iawn. Fe ddefnyddion ni Louise Ryan fel ein hyfforddwr lleisiol i baratoi’r actorion – mae hi wedi gweithio gyda phobl fel Charlotte Church a Luke Evans. Ac fe wnaethon ni recordio’r holl draciau yn Nhŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Roedden ni eisiau cael cynifer o artistiaid annibynnol Cymreig â phosibl yn y traciau masnachol neu’r traciau masnachol achlysurol. Mae gen i restrau chwarae rydw i wedi’u creu dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, wrth ddewis caneuon o sioe Adam Walton ar BBC Wales Introducing;  Horizons: a’r Forté Project trwy Beacons Cymru. Bob blwyddyn, bydda’ i’n dechrau rhestr chwarae newydd ac o’r fan honno’n bennaf y daeth y caneuon.

Os na fyddwn ni’n hunain yn hyrwyddo ein hartistiaid lleol, pwy wnaiff?  Mae cael platfform mor fawr â drama ar y BBC, neu unrhyw ddrama, yn galluogi pobl i ddod o hyd i’r gerddoriaeth honno.  Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi llwyfan i artistiaid Cymreig ac yn eu hyrwyddo pryd bynnag y gallwn ni.

Lost Boys & Fairies ar Spotify

Yn ogystal â pherfformiadau gwreiddiol anhygoel gan Sion Daniel Young ac aelodau eraill o'r cast, mae gan Lost Boys & Fairies drac sain wedi'i guradu'n arbennig sy'n cynnwys llawer o artistiaid o Gymru.Gwrandewch isod.

"Os na fyddwn ni’n hunain yn hyrwyddo ein hartistiaid lleol, pwy wnaiff? Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi llwyfan i artistiaid Cymreig ac yn eu hyrwyddo pryd bynnag y gallwn ni."

Os ydych chi’n artist sydd am gael eich caneuon ar y teledu, mae’n golygu bod angen dod i adnabod y goruchwylwyr cerdd. Gweithom weithio gyda Tin Drum ac mae gennyn ni Skip Curtis yn gweithio i ni yn lleol. Mae’n gweithio ar gynyrchiadau i helpu i gael caniatâd ar gyfer y gerddoriaeth ac mae’n gwneud ei orau glas i gael cynhwysiad ar gyfer artistiaid Gymreig.

Mae angen i artistiaid hefyd sicrhau bod eu caneuon wedi’u cofrestru gyda PRS oherwydd mae’n weddol anodd trefnu i gael caniatâd mewn pryd. A dylen nhw wahodd cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr i’w gigs a rhoi gwybod iddyn nhw eu bod nhw’n rhan o’r sîn. 

I fod yn gynhyrchydd, fy nghyngor i yw adeiladu teulu o bobl yr hoffech weithio gyda nhw i barhau i ddysgu yn eich gwaith o ddydd i ddydd. Hefyd, dewiswch swydd rydych chi'n ei mwynhau gan y byddwch chi'n rhagori ac yn datblygu. Ond wrth i chi wneud hynny, byddwch yn neis i bawb oherwydd bydd pobl yn cofio hynny. 

Lost Boys & Fairies yw’r sioe orau rydw i wedi’i gwneud. Rydw i’n llefain bob tro y bydda’ i’n darllen y sgriptiau. Rydw i’n llefain ac yn chwerthin bob tro y bydda’ i’n gwylio’r penodau, ac yn syrthio mewn cariad â’r cymeriadau. Mae’n hynod o arbennig gan fod y sioe wedi’i gosod yng Nghaerdydd, fy nghartre. Ac mae’n sioe gwiar sy’n feiddgar wrth fod yn barod i fynd i’r llefydd tywyll hynny nad ydych chi’n disgwyl eu cyrraedd. Mae’n llythyr cariad i Gaerdydd ac yn llythyr cariad i Gymru, a bydd yn ein gwneud ni i gyd yn falch dros ben."

I gael mwy o wybodaeth am Lost Boys & Fairies, darllenwch ein herthygl am sut gwnaeth lleoliadau yng Nghymru, y criw a’r hyfforddeion helpu i ddod â’r cynhyrchiad yn fyw 

Lost Boys & Fairies Gabriel and Andy in a scene wearing matching superman t-shirts

Straeon cysylltiedig