Sophie Canale ydw i ac  rydw i’n ddylunydd gwisgoedd sy’n gweithio yn y byd ffilm a theledu. Astudiais i wisgoedd yn y Bournemouth Arts Institute ond yn Falmouth, Cernyw, y ces i fy magu. Rydw i wastad wedi bod yn greadigol ac wedi mwynhau actio, felly roedd y byd gwisgoedd yn dod â’r pethau hyn ynghyd. Roeddwn i’n ddigon ffodus i weithio ym maes y theatr cyn symud i’r sector ffilm a theledu. Rydw i bellach wedi gweithio yn y diwydiant am 17 mlynedd.

Does fyth ddau ddiwrnod yr un fath i ddylunydd gwisgoedd; mae pob diwrnod yn wahanol a dyna pam fod y swydd mor wych, a pham fy mod i’n ei mwynhau hi cymaint. Ar ddechrau’r cyfnod ffilmio, bydd gennyn ni gyfnod paratoi sy’n para misoedd neu rai wythnosau.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydda’ i’n creu cysyniadau ac yn gweithio gyda’r cyfarwyddwyr, y dylunwyr cynhyrchu a’r cynhyrchwyr i hel syniadau am sut fydd y sioe’n edrych. Wrth i’r broses gastio ddatblygu, ac wrth i ni gael ein cyflwyno i’r actorion, bydd fy nhîm a finnau’n gwneud yn siŵr bod eu gwisgoedd nhw’n ffitio. Byddwn ni’n datblygu pob cymeriad ac yn deall sut rydyn ni, fel gweithwyr creadigol, ynghyd â’r cynhyrchwyr a’r actorion eu hunain, yn gweld y cymeriadau hyn.

Y cyfnod saethu sydd wedyn. Bob dydd, gallwn ni fod mewn lleoliadau neu stiwdios gwahanol yn ffilmio gwahanol olygfeydd. Fydd y rheini ddim yn cael eu ffilmio yn eu trefn. Efallai y byddwn ni’n ffilmio’r diwedd cyn y dechrau, ond bydd ein criw anhygoel yn sicrhau dilyniant drwy ofalu bod y gwisgoedd yn gweithio’n iawn yn ystod y cyfnod saethu.

 

Does fyth ddau ddiwrnod yr un fath i ddylunydd gwisgoedd; mae pob diwrnod yn wahanol a dyna pam fod y swydd mor wych, a pham fy mod i’n ei mwynhau hi cymai'

Pan anfonodd fy asiantau sgriptiau Dope Girls ata’ i, darllenais i ddwy bennod a gwirioni’n llwyr ar y syniad. Roeddwn i’n gwybod mai Shannon Murphy oedd yn cyfarwyddo, ac roeddwn i wedi cael blas mawr ar Babyteeth, felly roedd hi’n gyffrous iawn gallu gweithio gyda chyfarwyddwr sydd â dychymyg mor fyw ac sy’n gwthio ffiniau. Ces i gyfweliadau, ac es ati i greu byrddau naws, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cynnig i fod yn rhan o’r sioe. Bues i’n gweithio’n agos gyda Shannon a Cherie, y dylunydd cynhyrchu, ac Annika, y dylunydd ffotograffiaeth.

Drama gyfnod yn sicr yw Dope Girls, ond doedden ni ddim eisiau bod yn rhy llym wrth ddilyn y cyfnod. Y peth gwych am Dope Girls yw bod gwahanol fydoedd yn y gyfres; y byd bob dydd sy’n dathlu diwedd y rhyfel, a byd tanddaearol bohemaidd Soho – a oedd yn rhyw fath o isfyd cyffrous ym mherfeddion Llundain. Yn aml pan fydd rhywun yn meddwl am ddramâu cyfnod, bydd yna ddosbarth is a dosbarth uwch yn dod i’r meddwl, ond yn Dope Girls, mae cyfuniad o bobl yma, ac mae’n braf gallu treiddio i’w bydoedd nhw.

Wrth edrych ar y cymeriadau, bydda’ i’n pendroni pa fath o gerddoriaeth y bydden nhw’n gwrando arni heddiw, ac yn ceisio datblygu cymeriad o’r fan honno. Rydw i’n hoffi deall sut unigolyn fyddai’r cymeriad dan sylw. Mae modd cael teimlad cryf o hynny yn Dope Girls. Fe wnes i fwynhau dylunio i Billie. Roedd ganddi lawer o ddarnau dawnsio creadigol gwahanol. Hi oedd fy nghymeriad mwyaf bohemaidd, anghonfensiynol i. Dydy’r ffabrig a ddewiswyd ddim yn nodweddiadol o’r cyfnod, ond roedd Billie yn rhan o’r byd artistig yma, a byddai hi wedi gallu dod o hyd i wahanol bethau. Mae’n rhaid i chi gymryd y peth â phinsiad o halen. Dydy’r gwisgoedd ddim yn nodweddiadol o’r cyfnod, ond maen nhw’n chwareus iawn. Ond hyfrydwch y swydd yma, a Dope Girls, yw gallu dylunio i gynifer o gymeriadau gwahanol.

 

Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ym mhob cwr o’r byd, ond roedd cael y cyfle i weithio yng Nghymru am y tro cyntaf yn wych. Roedd criw cryf iawn o Gymru ar Dope Girls – pobl oedd yn byw yng Nghymru – a’r rheini’n hynod o gefnogol ac yn eithriadol o ddawnus. 

Os byddwch chi’n gweithio’n galed ac yn frwd, fe allwch chi wneud unrhyw beth. Rydw i’n dod o deulu dosbarth gweithiol, ac es i ysgol gyfun yn Penryn, Cernyw. Mae modd i unrhyw un wneud unrhyw beth dan haul os oes ganddyn nhw’r brwdfrydedd a’r ddawn, ac os ydyn nhw’n gweithio yng nghanol pobl sy’n credu ynddyn nhw. Felly, fy nghyngor i bobl greadigol ifanc yw: dangoswch ddiddordeb ym mhopeth, ewch i arddangosfeydd celf, gwyliwch ffilmiau, gwyliwch y teledu, byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli, a dechreuwch greu.

 

 

Hoffech chi wybod am fwy o brosiectau rydyn ni wedi’u cefnogi?  

Darganfyddwch straeon am gynyrchiadau llwyddiannus isod. Neu, os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gyrfa yn y byd ffilm a theledu, neu fynd ymhellach fyth, darllenwch ein cyfweliadau â gweithwyr proffesiynol a hyfforddeion talentog. 

Straeon cysylltiedig