Yn cyflwyno Lost Boys & Fairies, wedi'i ffilmio a'i osod yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Yn serennu Sion Daniel Young a Fra Fee, mae’r gyfres bedair rhan ar BBC One ac iPlayer yn dilyn y cantor a’r perfformiwr Gabriel a’i bartner Andy ar eu siwrnai fabwysiadu.  

Wedi’i hysgrifennu gan Daf James fel rhan o gynllun BBC Writers, mae’r stori garu hyfryd a thyner hon yn gyfle i ymgolli yn niwylliant cwiar Caerdydd. Yn ogystal â thrin a thrafod mabwysiadu a phrofiadau rhieni, mae’r gyfres hefyd yn dangos sut daw pobl i ddeall eu hunain, a hynny drwy berfformiadau Gabriel yn Neverland – gofod LHDTC+ ym Mae Caerdydd.

Yma yn Cymru Greadigol, rydyn ni’n falch o hyrwyddo’r cynhyrchiad fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i gryfhau’r sectorau creadigol yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth i Lost Boys & Fairies wedi helpu i sicrhau bod £12 yn cael ei roi yn ôl yn uniongyrchol i economi Cymru am bob punt a fuddsoddwyd.

O ganlyniad, bu modd i’r cynhyrchiad roi gwaith i naw o hyfforddeion o Gymru, a chreu pedair o swyddi uwchsgilio ar gyfer y rheini a oedd yn awyddus i wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd yn y diwydiant teledu.

Darllenwch fwy am y lleoliadau yng Nghymru, yr hyfforddeion, a’r gerddoriaeth a ddaeth â Lost Boys & Fairies yn fyw.

Andy (Fra Fee) & Gabriel (Sion Daniel Young)
Arwel Gruffydd as Berwyn in Lost Boys and Fairies
Sion Daniel Young (Gabriel) blows a kiss
Lost Boys & Fairies Gabriel and Andy in a scene wearing matching superman t-shirts

Y lleoliadau

Dyma gyfres sydd wedi cael ei galw’n llythyr caru i’r ddinas, a hithau’n dangos potensial Caerdydd fel lleoliad ffilmio o’r radd flaenaf i gynyrchiadau ffilm a theledu.

Bydd y rheini sy’n gyfarwydd â phrifddinas Cymru’n adnabod nifer o leoliadau amlwg yn y ddinas, gan gynnwys Stryd Womanby; tafarn y Golden Cross, sef lleoliad LHDTC+ hynaf Cymru; a Pharc Fictoria yn Nhreganna.

Mae prydferthwch cyfagos Llynnoedd Cosmeston a Thraeth Ogwr hefyd yn gefnlen braf, wrth i’r gyfres helpu i amlygu’r tirluniau amrywiol sydd ar gael i gynyrchiadau o fewn pellter gyrru agos i’r ddinas.

Os ydych chi’n ystyried ffilmio yng Nghymru, gall ein cronfa ddata o leoliadau eich helpu i ddod o hyd i’r llecyn perffaith i’ch cynhyrchiad chi.

Ewch i gael golwg ar ein cronfa ddata o leoliadau

Womanby street, Cardiff at night
mural on a wall in Cardiff

Y criw a’r hyfforddeion

Daeth Lost Boys & Fairies â chriw a hyfforddeion at ei gilydd o Gymru a’r tu hwnt.

Fe wnaeth Sgil Cymru, sy’n cynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ym maes y cyfryngau, roi cyfle i Kaitlin Brock a weithiodd ar y gyfres fel Hyfforddai Golygu. Fe wnaeth ScreenSkills hefyd gyfrannu hyfforddeion drwy sawl un o’i gynlluniau, gan gynnwys y Developing HOD (Head of Department) Scheme, y Trainee Script Editor Scheme, Make a Move, Trainee Finder, Leaders of Tomorrow, a’r Global Majority Crew.

Ymhlith yr hyfforddeion roedd yr actores o Gymru, Shelley Rees, a weithiodd yn ei swydd gydlynu gyntaf ar gynhyrchiad HETV, yn ogystal ag fel actores yn y bennod gyntaf; Nalishuwa Ikachana, a ymunodd fel hyfforddai yn yr adran gelf; a Nicole Howe, a gamodd i swydd Ail Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Dorf.

Fe allwch chi eu clywed nhw’n sôn am eu profiadau ar y set fan hyn.

 

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ar gynhyrchiad fel hyfforddai yng Nghymru, neu os hoffech chi uwchsgilio a dringo’r ysgol yrfa, ewch i’n tudalen sgiliau i weld rhai o’r rhaglenni sydd ar gael i’ch helpu.

Mwy o wybodaeth 

 

Y gerddoriaeth

Yn ogystal â hyrwyddo De Cymru fel lleoliad ffilmio a dod â chriw a hyfforddeion at ei gilydd o Gymru a’r tu hwnt, roedd Lost Boys & Fairies hefyd yn ddathliad o ddoniau cerddorol ardderchog Cymru.

Er enghraifft, roedd y perfformiadau yng nghlwb ffuglennol Neverland yn cynnwys cyfansoddiadau gwreiddiol gan Daf James. At hynny, ar gyfer y trac sain, dewiswyd nifer o draciau masnachol gan artistiaid o Gymru fel Greta Isaac, Luxe, Hvnter a Johnny Gurnett.

Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth am ffilmio yng Nghymru – o sut i gael cychwyn da i’ch gyrfa fel hyfforddai i sut i ddod o hyd i leoliadau, criw a llety ar gyfer eich cynhyrchiad chi

 

Rhestr chwarae Lost Boys and Fairies

Straeon cysylltiedig