Mae ein Cronfa Sgiliau Creadigol ar gael ar gyfer prosiectau a rhaglenni sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau a thalent yn y sectorau cerddoriaeth, digidol a sgrin yng Nghymru.

Yn gysylltiedig â'n Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol, mae'r gronfa yn cefnogi blaenoriaethu sgiliau ein diwydiannau creadigol, yn gwmnïau ac unigolion, a fydd yn parhau i ysgogi twf ar draws ein sectorau.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod y prosiectau rydym yn eu hariannu rhwng nawr a 2026. Er mai newydd ddechrau mae rhai, mae eraill yn adeiladu momentwm ar brosiectau a lansiwyd y llynedd.

Am ddiweddariadau, ewch i'w gwefannau neu eu sianeli cymdeithasol.  Gallwch ddarllen yr erthygl hon am wybodaeth am brosiectau llynedd.

Screen Alliance Wales: Vocal Histories

Bydd Screen Alliance Wales yn recriwtio hyfforddeion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ddysgu sut i lunio rhaglenni dogfen.

Gan ddysgu gan wneuthurwyr rhaglenni dogfen arbenigol, bydd yr hyfforddeion Vocal Histories yn ymchwilio, cynhyrchu, cyfarwyddo a golygu ffilmiau dogfennol, gan weithio gyda’r gymuned leol i ddewis straeon am eu treftadaeth aml-ethnig.

Mae’r prosiect hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o Goleg Prifysgol De Cymru a Choleg Caerdydd a’r Fro gysgodi’r hyfforddeion wrth gynhyrchu eu ffilmiau, a fydd yn cael eu dangos ar y sgrin fawr ar ddiwedd y prosiect.

TAPE Cerdd a Ffilm Cymunedol

Mae TAPE, sydd wedi'i leoli ym Mae Colwyn, yn ymwneud â chynhwysiant, ac mae'n ganolog iawn i'r prosiect hwn.

Byddant yn creu dogfennau, ffilmiau byrion a chanllawiau sain dwyieithog cwbl hygyrch sy'n ymwneud â gweithio ymarferol yn y sector sgrin. Fel rhan o'r prosiect hwn, bydd TAPE hefyd yn creu ffilmiau byr cynhwysol a fydd yn cael eu dangos cyn ffilmiau nodwedd yn sinemâu Vue ac Odeon ledled y DU.

Hijinx: Hwyluswyr Creadigol

Bydd y prosiect hwn dan arweiniad Hijinx yn hyfforddi Hwyluswyr Creadigol a fydd yn cefnogi artistiaid anabl, sydd ag anableddau dysgu ac sy'n awtistig yn eu gwaith o fewn y sector sgrin. 

Bydd Hijinx hefyd yn cynnal sesiynau gwybodaeth a hyfforddiant i gwmnïau cynhyrchu i dynnu sylw at y manteision y gall Hwyluswyr Creadigol eu cynnig i gynhyrchiad.  Bydd Hijinx yn gweithio'n agos gyda Taking Flight, cwmni theatr hygyrch a chynhwysol, sy'n cynnig arbenigedd ar weithio gydag artistiaid byddar, dall ac anabl yn gorfforol.

Ffilm Cymru Wales: Lle / Space

Mae Ffilm Cymru Wales yn cynnal rhaglen i ddatblygu talent creadigol  (awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr) o gymunedau mwyafrif byd-eang. 

Bydd cyfranogwyr yn elwa o labordy preswyl wythnos o hyd ar gyfer awduron, cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr, lle byddant yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgript, fideo hyrwyddo a/neu ddeunyddiau cyflwyno.

Byddant hefyd yn cael cymorth a mentora gyrfa pwrpasol, gyda mynediad at ymgynghorwyr a siaradwyr ffilm lefel uchel yn y DU ac yn rhyngwladol.

Academi Gorilla: Stepping Stones

Caiff Stepping Stones ei arwain gan Academi Gorilla ac fe'i cynlluniwyd i ddarparu cyrsiau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant Ôl-gynhyrchu yng Nghymru.

Bydd 25% o'r cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno drwy'r Gymraeg, lle ceir prinder cydnabyddedig o hyfforddiant ôl-gynhyrchu. Bydd Gorilla yn darparu lleoliadau gwaith, mentora a phrofiad yn y diwydiant. Gyda'i gilydd byddant yn darparu 32 o sesiynau hyfforddi.

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: Llwybrau Proffesiynol

Ar ôl prosiect sgiliau llwyddiannus y llynedd, bydd CCIC nawr yn arwain rhaglen Llwybrau Proffesiynol, a fydd yn helpu pobl ifanc 16-22 oed o bob cwr o Gymru i archwilio amrywiaeth o yrfaoedd creadigol. Byddant yn dysgu sut i gael mynediad at yrfaoedd creadigol hyfyw mewn meysydd fel dylunio sain a ffilm a theledu, wrth glywed gan fodelau rôl ysbrydoledig yn y diwydiant.

group of young women talk and laugh together whilst in a music workshop

Prifysgol De Cymru (Atriwm): Immersed

Mae'r prosiect hwn gan PDC yn cynnig datblygu sgiliau technegol gyda ffocws ar sain, goleuadau a chynaliadwyedd. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu drwy weithdai amrywiol wedi'u hanelu at gerddorion, perfformwyr, a thechnegwyr lleoliad a llawrydd sydd am hogi eu sgiliau.  Bydd pob gweithdy yn hygyrch i bawb mewn partneriaeth â sefydliadau ieuenctid, ysgolion a cholegau.

Anthem. Cronfa Gerdd Cymru: Porth Anthem

Yn ail brosiect cerddoriaeth, mae Porth Anthem yn wefan ar gyfer cerddorion ifanc uchelgeisiol a phobl greadigol ifanc sy'n chwilio am lwybr i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r platfform, buddsoddi mewn tîm Porth ifanc, cynhyrchu cynnwys rheolaidd, cyfleoedd cyfredol a chynnig ymgysylltiad mwy ystyrlon i ddatblygu cynulleidfa, enw da a chyrhaeddiad y prosiect.  

Canolfan Mileniwm Cymru: Into XR

Mae'r prosiect hwn o dan arweiniad Canolfan Mileniwm Cymru wedi'i anelu at bobl ifanc 11–18 oed sydd â diddordeb mewn technolegau trochi (ond heb fynediad atynt). Bydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora ac arddangos i bobl ifanc ac artistiaid newydd mewn technolegau XR ymdrochol creadigol.

Gan weithio gydag unigolion o bob rhan o Gymru, bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn eu helpu i greu eu profiadau trochi prototeip eu hunain.  Bydd ffocws penodol ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gyda'r nod o wella recriwtio amrywiol a chynhwysol i'r diwydiant yn y tymor hwy.

Bydd y prosiect yn cynnig ystod o gyrsiau o gyrsiau undydd rhagarweiniol i gyrsiau 12 wythnos hirach a fydd yn cyflwyno cyfranogwyr i wahanol fathau o dechnolegau trochi.

Esports Cymru

Bydd Esports Cymru yn defnyddio'r cyllid hwn i ehangu rhaglenni'r Academi Esports, sy'n cynnwys Cymru gyfan.

Bydd hyfforddiant, rhwydweithio a chymorth busnes yn cael eu cynnig i bobl ifanc sy'n dymuno gweithio yn y sectorau digidol neu greadigol sy'n gysylltiedig â gemau ac Esports.

O sesiynau blasu i ddigwyddiadau rhwydweithio a gyrfaoedd, bydd cyfranogwyr hefyd yn cael y cyfle i weithio ar Gynghrair Esports Cymru a fydd yn darparu profiad go iawn ar ddarllediad byw.

4Pi Productions: Unlocking XR

Mae prosiect dan arweiniad 4Pi Productions, Unlocking XR yn rhaglen i gefnogi datblygiad gyrfaoedd yn y maes trochi.

Bydd yn pontio'r rhaniad rhwng y byd academaidd a diwydiant, gyda chyfranogwyr yn dysgu agweddau creadigol, technegol a chynhyrchu technolegau XR gyda mynediad at feddalwedd ac offer sy'n arwain y diwydiant.

Bydd sgiliau'n cael eu haddysgu mewn modelu 2D a 3D, Creu Cynnwys Cynhyrchiol, Cynhyrchu Rhithwir ac Olrhain Symudiadau, Technoleg Trochi a Rhyngweithiol a Mapio Amcanestyniadau sy'n anelu at helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd mewn digwyddiadau byw, cerddoriaeth, hapchwarae, ffilm, VFX, teledu a chynhyrchu rhithwir.

Bydd lleoliadau â thâl yn cael eu darparu i bedwar cyfranogwr weithio yn y Lab CULTVR sydd â'r technolegau XR diweddaraf, a chaledwedd a meddalwedd arloesol.

Academi Cloth Cat 

Bydd y stiwdio animeiddio Cloth Cat yn sefydlu Academi animeiddio a gemau a fydd yn darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol y diwydiant animeiddio a gemau yng Nghymru a hwn fydd y ganolfan hyfforddi awdurdodedig Toon Boom gyntaf yn y DU. 

Bydd bwrsariaethau yn cael eu darparu i weithwyr llawrydd yng Nghymru a bydd ysgol haf yn cefnogi talent gwneud ffilmiau Cymreig lleol i ddatblygu ffilmiau byr ar gyfer dangosiadau mewn gwyliau ledled y byd.

Media Academy Cymru: Animeiddio

Bydd Media Academy Cymru a fu'n arwain prosiect gemau gyda chyllid sgiliau yn flaenorol, yn datblygu dau gwrs lefel mynediad newydd mewn animeiddio (BTEC Lefel 2 a 3) gan ganolbwyntio ar dargedu pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

Unquiet Media: Hyfforddiant Niwroamrywiaeth i gwmnïau creadigol yng Nghymru

Cyflwynwyd gan Unquiet Media, nod y prosiect hwn yw darparu hyfforddiant hyblyg o safon uchel sy’n achrededig yn broffesiynol (CPD) mewn Niwroamrywiaeth i gwmnïau creadigol yng Nghymru, er mwyn galluogi a grymuso gweithleoedd ac arferion mwy cynhwysol, mwy diogel yn seicolegol, a mwy cynhyrchiol.

Academii: Pitch for perfection

Bydd y rhaglen Pitch for Perfection a gynhelir gan Academii yn darparu hyfforddiant pwrpasol i gwmnïau creadigol ddysgu sut i gyflwyno eu syniadau a'u Pwynt Gwerthu Unigryw yn effeithiol i gyllidwyr, buddsoddwyr a chleientiaid posibl. Bydd cyfuniad o addysgu wyneb yn wyneb a thechnoleg XR yn cael ei ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant cyflwyno, tra'n annog dysgu gan gymheiriaid a rhwydweithio.

M-SParc (Prifysgol Bangor): Creative Sparc

 

Mae Creative Sparc yn bwriadu adeiladu ar brosiect yr academi allgymorth a sgiliau a gyflwynwyd drwy gyllid sgiliau y llynedd. Byddant yn cefnogi ysgolion a chwmnïau creadigol sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru drwy: weithio gyda disgyblion ysgolion cynradd mewn cymunedau economaidd-gymdeithasol isel gan integreiddio Ffilm, Teledu, Sain, deallusrwydd artiffisial a gemau i'r cwricwlwm; darparu lleoliadau mewn cwmnïau creadigol yng Ngogledd Cymru i raddedigion diweddar yr Academi Sgiliau; darparu hyfforddiant arweinyddiaeth i gefnogi cwmnïau i uwchsgilio eu gweithlu a lleihau eu hallyriadau carbon.

Cadwch yn gyfredol â chyfleoedd cyllido ar ein tudalennau ariannu a chefnogaeth, neu dilynwch ni ar ein sianeli cymdeithasol.

Straeon cysylltiedig

Ein gwaith

Rydym yn cysylltu pobl, hyrwyddo creadigrwydd a buddsoddi mewn syniadau ar draws ein cenedl.

Cliciwch yma i weld ein ffilm hyrwyddo.