Rhys Padarn ydw i. Rwy’n dod o Abertawe yn wreiddiol, ond rwy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Fi oedd cyfarwyddwr stiwdio Pictionary i ITV, y sioe sy’n dod â’r gêm fwrdd eiconig yn fyw.
Fel cyfarwyddwr stiwdio, roeddwn i’n gweithio gydag amryw o dimau. Roedd yr amserlen yn dynn ar y set, a ninnau’n gweithio ar hyd at saith pennod bob dydd. Byddai fy niwrnod arferol yn golygu sgwrsio â’r tîm goleuo, y tîm camera a dylunwyr y set, gan ofalu eu bod nhw’n hapus. Ar ôl hynny, bydden ni’n gofalu bod y gwisgoedd a’r wardrob yn iawn, cyn dechrau recordio.
Ar ddechrau Pictionary, cawson ni ddiwrnod o ymarfer. Ar ôl cadarnhau’r weledigaeth, y nod oedd gofalu nad oedd dim byd yn achosi oedi ac yn y pen draw, sicrhau ein bod ni wastad yn symud yn ein blaenau. Fi hefyd yw’r cynhyrchydd golygu ar y sioe, felly fy ngwaith i yw cwtogi’r penodau a’u tynhau nhw. Rwy’ wedi gweithio ar Tipping Point am naw mlynedd, felly mae gen i dipyn o brofiad o sioeau cwis, ac roeddwn i’n gwybod beth fydden ni’i angen wrth olygu. Fe allwn i felly wneud y penderfyniadau hynny’n weddol gyflym.
Rwy’n hoffi ystyried mai fy ngwaith i yw llywio’r llong yn y stiwdio. Fy nod yw creu platfform i’r tîm – ar Pictionary, i bobl fel Andy, ein cyfarwyddwr goleuo anhygoel a Sion, ein goruchwyliwr camerâu ardderchog – gan adael iddyn nhw fwrw iddi i wneud eu gwaith.
Cafodd y sioe ei ffilmio yn Stiwdios Enfys yng Nghaerdydd, a oedd yn debyg i ddod adref. Ar raglenni plant Cymraeg y dechreuais i fy ngyrfa, a byddwn i’n arfer gwneud llawer o sioeau yn Stiwdios Enfys. Roedd hi mor braf gweithio yng Nghaerdydd, gan fy mod i’n gweithio i ffwrdd yn gyson, gan amlaf dros y ffin neu dramor.
Rwy’ wrth fy modd ag amrywiaeth fy swydd fel cyfarwyddwr stiwdio; rwy’n gweithio mewn pob math o genres gwahanol. Rwy’n gwneud sioeau cwis, ychydig o chwaraeon, a rhywfaint o raglenni realiti; does byth yr un diwrnod yr un fath â’r llall. Bythefnos cyn gweithio ar Pictionary, roeddwn i yng Nghyprus yn gwneud sioe realiti i Channel Four, a honno’n gwbl wahanol ei natur.
Dechreuodd y cyfan i mi yn Aberystwyth, lle astudiais i ffilm a theledu. Wedyn ces i swydd yn llyfrgell dapiau S4C. Ar y pryd, roedd gan S4C adran rhaglenni plant fewnol. Des i’n ymchwilydd ac wedyn yn gynhyrchydd cynorthwyol. Byddwn i’n gofyn byth a beunydd am gael rhoi cynnig ar gyfarwyddo, ac yn y diwedd, rhoeson nhw gyfle i mi. Es i’n llawrydd ryw 10 mlynedd yn ôl bellach; ces i rywfaint o gyfleoedd gan rai cyfarwyddwyr, ac mae pethau wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
I’r rheini sydd â diddordeb yng ngwaith cyfarwyddwr stiwdio, un o’r prif sgiliau angenrheidiol yw’r gallu i sylwi ar fanylion. Mae hynny’n go bwysig, gan mai chi sy’n gyfrifol yn y pen draw. Hefyd, mae angen sgiliau trin pobl da, gan fod yn rhaid i chi ymwneud â’ch gwahanol dimau. Mae bod yn bwyllog hefyd yn bwysig, yn enwedig pan fyddwch chi’n wynebu problemau.
Un o’r darnau gorau o gyngor a ges i erioed oedd mai’r penderfyniad pwysicaf y gallwch chi’i wneud yw gwneud y penderfyniad ei hun. Wrth oedi, gall pethau fynd o ddrwg i waeth. Fy nghyngor fy hun: po fwyaf o genres y byddwch chi’n gweithio arnyn nhw, y cryfaf fyddwch chi. Fel y dywedais i, rwy’ wedi gweithio ar chwaraeon, rhaglenni realiti a sioeau cwis; rwy’n defnyddio ychydig o fy mhrofiad o bob un ohonyn nhw ar bob sioe, sy’n fy ngwneud i’n gyfarwyddwr gwell.
O ran Pictionary, rwy’n falch ac yn teimlo’n gyffrous ein bod ni wedi gallu gwneud y rhaglen yng Nghymru, i’w chyflwyno i gynulleidfa drwy’r Deyrnas Unedig. Mae’r rhaglen wedi bod yn cael ei darlledu yn America ers blwyddyn neu ddwy, ond mae natur ein fersiwn ni fymryn bach yn wahanol. Roedd Mel Giedroyc yn ddewis gwefreiddiol fel cyflwynydd. Mae hi’n rhoi gwir egni i’r rhaglen, ac mae’i phersonoliaeth yn gweddu i’r dim.
Rhys PadarnI’r rheini sydd â diddordeb yng ngwaith cyfarwyddwr stiwdio, un o’r prif sgiliau angenrheidiol yw’r gallu i sylwi ar fanylion. Mae hynny’n go bwysig, gan mai chi sy’n gyfrifol yn y pen draw"
Mae Cymru’n enwog am ei dramâu a’i rhaglenni chwaraeon, ond nid cymaint am ei chwisiau – ar wahân i Only Connect. Mae’n gyffrous dangos beth all criw o Gymru ei wneud wrth gael sioe fel hon i’w chreu. Mae’n beth anferth i’r diwydiannau creadigol fod Pictionary wedi dod yma, ac mae’n wych ein bod ni’n gallu dangos doniau teledu Cymru i bawb.
Mae’n bwysig bod Cymru Greadigol yn dal i hyrwyddo’r diwydiant teledu a sioeau fel Pictionary, oherwydd dydyn ni ddim eisiau gweld y doniau hynny’n mynd i lefydd eraill. Rydyn ni eisiau dod â sioeau i fan hyn er mwyn i bobl aros yma, ac er mwyn i ni allu parhau i wneud sioeau gwych ymhell i’r dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau cyffrous sy’n digwydd yn ein sector sgrin yng Nghymru, ewch i’r adran ffilm a theledu ar ein gwefan.
Tîm sgiliau, Cymru GreadigolRhaid i bob cynhyrchiad rydym yn ei gefnogi ddarparu nifer o leoliadau cyflogedig dan hyfforddiant. Er mwyn hybu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, rhaid cynnig o leiaf un o'r lleoliadau hyn i unigolyn o gynllun prentisiaeth cydnabyddedig fel rhaglen CRIW Sgil Cymru"