Dros saith diwrnod yn Ebrill 2022, bu dros 150 o artistiaid yn perfformio mewn 29 digwyddiad, mewn 12 lleoliad ledled Caerdydd. Roedd yr ŵyl yn gyfle i ddangos gwir ehangder ac amrywiaeth ein talent, o gerddoriaeth metel trwm i jazz, pop i werin, o gerddoriaeth grime i ddawns electronig.
Cafodd yr Ŵyl Ymylol ei guradu a’i chynnal gennym ni i gyd-fynd a Gŵyl BBC 6 Music - digwyddiad cerddoriaeth amgen adnabyddus sydd wedi teithio dinasoedd o bob cwr o’r DU ers 2014. Eleni, daeth yr ŵyl ag enwau mawr y sin i Gaerdydd gan gynnwys Little Simz, IDLES, Bloc Party, Self Esteem a Johnny Marr.
Gyda'r ŵyl yn dod i Gymru, roeddem yn awyddus i wneud yn siŵr bod artistiaid diweddaraf y sin Gerddoriaeth Gymreig a lleoliadau cerddoriaeth annibynnol Caerdydd yn gallu chwarae eu rhan. Felly, fe wnaethom gyflwyno'r syniad o ddigwyddiadau Ymylol – oedd yn cael ei hyrwyddo o dan yr un faner, ond yn caniatáu lleoliadau lleol i ddewis pa bynnag sioeau yr oeddynt yn dymuno, a hynny yn rhad ac am ddim.
Roedd cydweithio yn allweddol i lwyddiant yr Ŵyl Ymylol. Rhoddodd Cyngor Caerdydd gymorth ac arbenigedd mewn ac fe chwaraeodd y prifysgolion lleol rôl flaengar. Fe wnaeth Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel JOMEC - bartneru hefo Cymru Greadigol i redeg digwyddiad newyddiaduraeth cerddoriaeth gyda myfyrwyr yr ysgol yn gyfrifol am sylw'r wasg.
Fe wnaeth Prifysgol De Cymru ymgorffori ei gŵyl flynyddol ei hun, sef gwyl Immersed! – gan gynnal gigs ychwanegol a chodi arian i’r Teenage Cancer Trust. Cafodd y sefydliad dielw FOR Cardiff gyllid a chefnogaeth i greu rhifyn arbennig o Minty’s Gig Guide ar gyfer yr ŵyl. Fe wnaeth Cymru Greadigol ddarparu tocynnau am ddim i Ffrindiau Gigiau Cymru hefyd, cynllun cyfeillio sy'n paru gwirfoddolwyr â chefnogwyr cerddoriaeth ag anableddau dysgu.
Ar ôl dwy flynedd o ohirio gigs yn ystod pandemig Cofid-19, yr Ŵyl Ymylol oedd y dathliad cerddorol roedd y sin gerddoriaeth yng Nghymru wedi bod yn aros amdani. Roedd pob sioe bron yn llawn, gan ddod â bwrlwm yn ôl i leoliadau oedd wedi bod ar gau neu yn gweithredu o dan reolau llym.
I’r artistiaid, gan gynnwys Minas, L E M F R E C K, a Rona Mac, roedd yn llwyfan i gael eu gweld, eu cydnabod, ac i ddod o hyd i gefnogwyr newydd a chysylltu â nhw wyneb yn wyneb, yn hytrach nag ar lein. I ni, roedd yn gyfle i gefnogi cerddoriaeth o Gymru - nid yr artistiaid a’r lleoliadau yn unig, ond y technegwyr sain, yr hyrwyddwyr a phawb sydd ynghlwm â’r diwydiant.
Eisiau gwybod mwy? Darganfyddwch rai o’r artistiaid fu’n cymryd rhan ym mhrif gigs Gŵyl Ymylol 6 Music:
- Mawrth 30: Juice Menace yn Porter’s, gyda Harry Jowett a Noah Bouchard. Sioe wefreiddiol gan rapiwr ifanc amryddawn
- Mawrth 31: The Shutdown Show yn The Moon. Eädyth a Izzy Rabey yn cloi gig oedd yn cynnwys rhai o dalent ddiweddaraf a mwyaf addawol MOBO yn Ne Cymru
- Ebrill 1: Red Telephone, Eye, Foxxglove a Tom Emlyn yn Tiny Rebel. Rhaglen arbennig o amrywiol mewn lleoliad clos yn cynnwys perfformiadau seic-roc, metel prog, pop tywyll a gwerin