Gyda cherddoriaeth Gymraeg yn tyfu mewn poblogrwydd a gyda thon o artistiaid bywiog ac amrywiol yn dod i'r amlwg, mae'n gyfnod cyffrous i fod yn rhan o'r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Dyma rai o’r bandiau ac artistiaid o Gymru i gadw llygad a chlust arnynt yn 2022 – mae pob un ohonynt wedi'u cefnogi gan y PPL Momentum Music Fund.

Magugu

Gyda’i donau lleisiol amrywiol  a’i gerddoriaeth arbrofol, daeth Magugu, y rapiwr Nigeraidd o Gaerdydd i amlygrwydd yn y byd cerddoriaeth danddaearol gyda’i arddull rap pidgin avant-garde – tafodiaith Nigeraidd leol sy’n cynnwys ymadroddion Saesneg a lleol. Nawr mae'n cyflwyno’i sain unigryw i'r byd trwy lwyfannau BBC 1Xtra, 6Music, BT Sport ac ESPN.

Venom Prison

Dyma Venom Prison. Ar ôl rhyddhau eu demo yn 2015, bu’r supremos metel trwm yn chwarae yn rhai o brif wyliau y DU fel DownloadGlastonbury a Bloodstock. Yn 2019, roedd eu halbwm Samsara yn un o 10 albwm gorau’r flwyddyn yn ôl Kerrang!. Ers hynny, mae eu halbwm Erebros, a ryddhawyd yn 2022, wedi mynd a’r band o nerth i nerth yn y byd cerddoriaeth fetel ledled y byd. Mae'r lleisydd Larissa Stupar yn adnabyddus am ei geiriau di-flewyn-ar-dafod ar bynciau amrywiol o hiliaeth i anghyfiawnder cymdeithasol.

Adwaith

Wedi'i ffurfio yng Nghaerfyrddin yn 2015, mae’r triawd ôl-pync Cymraeg, Adwaith, yn enw cyfarwydd ar y sin gerddoriaeth Gymraeg erbyn hyn. Enillodd eu halbwm cyntaf Melyn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019.

Yn ogystal â chael eu chwarae sawl gwaith ar 6 Music, fe wnaethon nhw hefyd recordio sesiwn yn stiwdios y BBC yn Maida Vale ar gyfer Huw Stephens. Mae eu caneuon dwyieithog wedi cael eu chwarae mewn gigs ar draws y byd ac mae'r triawd wedi camu ar lwyfannau gwyliau fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd a Latitude.

Close of up lead singer from Adwaith, Hollie Singer. Hollie has a short red bob and is wearing a black off the shoulder top. She is also holding a red electric guitar.
Hollie Singer, lleisydd a gitarydd y band Adwaith.

Juice Menace

Mae’r rapiwr Juice Menace a gafodd ei geni a’i magu yng Nghaerdydd yn barod i lwyddo. Cyn troi'n 20 oed, roedd hi eisoes wrthi’n gwneud enw iddi ei hun yn sin rap gyfoes y DU. Yn ogystal â sicrhau ei lle ar restr chwarae Rap UK Spotify, cafodd ei henwi fel un o grewyr y mis Triller ar gyfer y DU. Fe wnaeth gal-dem hefyd ei henwi'n One To Watch yn 2020. Yn falch o'i gwreiddiau, mae'r rapiwr talentog yn cydnabod bod Caerdydd wedi cael dylanwad enfawr arni.

Sŵnami

Ar ôl saib o bedair blynedd, mae’r band Cymraeg o Ddolgellau, Sŵnami wedi camu’n ôl yn hyderus i’r llwyfan yn 2021 gyda EP newydd, Theatr / Uno, Cydio, Tanio. Daeth y band indi-roc 5-rhan at ei gilydd yn 2011, ond daethant i’r amlwg go iawn gyda’u albwm, Sŵnami, yn 2015, gan ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac fe enwebwyd y band ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig hefyd. Ymgollwch yn eu seiniau synth-pop a gwyliwch fideo Theatr isod, a ffilmiwyd ym Mhortmeirion gyda seren White Lines, Tom Rhys Harries.

Swnami - Theatr

Buzzard Buzzard Buzzard

Os nad ydych wedi cael cyfle i weld y Buzzard Buzzard Buzzard o Gaerdydd yn chwarae'n fyw eto - mae angen i chi! Mae'r band wedi ei ysbrydoli gan glam-roc y 70au ac yn rym ar y llwyfan ac oddi arni gan brysur ddod yn un o fandiau ifanc mwyaf addawol Cymru. Mae eu cerddoriaeth wedi cael ei chwarae ar draws prif orsafoedd y DU, gan gynnwys Radio 1 a 6Music. Ac mae'r grŵp pedwar rhan yn ffefrynnau ymysg gwyliau’r DU – o Glastonbury i All Points East.

Mae eu halbwm ddiweddaraf, Backhand Deals, allan nawr.

Those Damn Crows

Yn dilyn ôl traed y bandiau enwog Funeral for a Friend a Bullet for my Valentine, daeth Those Damn Crows o Ben-y-bont ar Ogwr, i amlygrwydd yn 2014. Rhyddhawyd eu hail albwm Point Of No Return yn 2020 gan gyrraedd rhif 14 yn Siart Swyddogol yr Albymau.

Mae'r grŵp roc yn adnabyddus am eu riffiau a'u lleisiau trawiadol, gan gamu ar lwyfan Planet Rock a gŵyl Download. Cadwch lygad am eu trydydd albwm fydd yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yn 2022.

Group shot of rock band Those Damn Crows. The five-piece band are wearing black leather jackets over t-shirts.
Daw Those Damn Crows o Ben-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru.

Nia Wyn

Mae Nia Wyn, sy’n enedigol o Landudno, yn gantores deimladwy sydd â thalent am adrodd straeon blaengar am gymdeithas. Er bod ei llais arbennig yn cael ei ddylanwadu'n drwm gan synau'r gorffennol, mae ei geiriau'n brwydro gyda phroblemau cyfoes.

Yn ogystal â chael chwarae ei chaneuon ar draws BBC Radio 2, BBC Radio 1, a BBC Introducing, bu Nia ar daith yn ddiweddar yn cefnogi'r enwog Paul Weller.