Ble bynnag yr ewch yn y byd, mae pobl yn gwrando ar Gymru. Mae gennym leoliadau a chanolfannau gwych, gwyliau, hyrwyddwyr, stiwdios a labeli recordio. Nid oes diwedd i'n rhestr o sêr rhyngwladol, o Underworld i'r Super Furry Animals, Shirley Bassey i Duffy, Funeral for a Friend i’r Manic Street Preachers.
Rydym am ehangu'r rhestr hon. Drwy ddatblygu cerddoriaeth ar lawr gwlad, gallwn feithrin y genhedlaeth nesaf o fandiau ac artistiaid – o Buzzard Buzzard Buzzard ac Adwaith, i Kelly Lee Owens ac Afro Cluster. Mae hynny'n golygu sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Rydym yn hyrwyddo ystod eang o fentrau ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth fasnachol a'i gerddorion, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r rhain yn cynnwys arian ar gyfer artistiaid sy'n gwthio tuag at y lefel nesaf, prosiectau cerddorol a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Ein nod, ochr yn ochr â'n partneriaid, yw sicrhau bod talent Cymru – ar draws y diwydiant cerddoriaeth – yn cael ei feithrin, ei gefnogi a'i ddatblygu. Yn ogystal, ewch i UK Music a Help Musicians - dau sefydliad sydd yn offrymu nifer o wasanaethau a chymorth i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant.
Mae’n bwysig dweud, fodd bynnag, er bod cerddoriaeth glasurol, opera, cerddorfa a theatr gerdd yn elfennau hanfodol o gerddoriaeth Gymraeg a’r sector creadigol ehangach, mae sefydliadau eraill, megis Cyngor Celfyddydau Cymru, yn gofalu am y rhain.
Enwau mawr yn y man: Cerddorion o Gymru i gadw llygad arnyn nhw yn 2025
Dewch i gwrdd â’r wynebau ffres sy’n siapio dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru, o Mellt i L E M F R E C K.
Testunau:
Sut mae’r Sefydliad PRS yn cefnogi crewyr cerddoriaeth ifanc Du
Dysgwch sut mae menter POWER UP yn ceisio chwalu rhwystrau i’r gymuned gerddoriaeth Ddu.
Testunau:
Cyngor gwych i gerddorion ac artistiaid gan PRS Foundation.
Hoffech chi roi hwb i’ch gyrfa gerddorol? Dyma ein canllaw ni sy’n rhoi cyngor o lygad y ffynnon.
Testunau:
Sut mae Porter’s wedi elwa o’n Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth
Ein nawdd yn helpu i ddiogelu dyfodol lleoliad yng Nghaerdydd.
Testunau:
Jayce Lewis: offerynnwr, artist, a pherchennog stiwdio gerddoriaeth
Darganfyddwch sut aeth Jayce o artist unigol i fod yn berchennog ar stiwdio gerddoriaeth ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Testunau:
Mae cerddoriaeth wrth wraidd ein hunaniaeth genedlaethol. Rydym wedi ymrwymo i'w dwf a'i lwyddiant, yn ei holl amrywiaeth, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Dyma sŵn y Gymru gyfoes
Mapio Cerddoriaeth yng Nghymru
Cael mynediad at wybodaeth am y sector Cerddoriaeth yng Nghymru a map rhyngweithiol o leoliadau cerddoriaeth ledled y wlad.
Testunau:
Wythnos Gigfannau Annibynnol yn dychwelyd
Dod o wybod am y lleoliadau a’r artistiaid sy’n rhan o Wythnos Gigfannau Annibynnol yng Nghymru eleni.
Nia Wyn: artist neo-soul
O Landudno i Lundain, darllenwch am daith gerddorol bwerus Nia.
Ryan Richards: rheolwr artistiaid a pherchennog Future History Management.
O ddrymiwr Funeral for a Friend i reolwr artistiaid, dyma hanes gyrfa gerddorol egnïol Ryan.
Darganfod y Honey Sessions gan Beacons
Sut mae’r Honey Sessions gan Beacons yn datblygu talent ifanc yn y diwydiant cerddoriaeth Gymreig.
Gŵyl Ymylol BBC 6 Music: arddangos cerddorion a lleoliadau Cymru
Darganfyddwch yr artistiaid, lleoliadau a digwyddiadau tu ôl i Ŵyl Ymylol Caerdydd.
Rhai i'w gwylio: Wyth band ac artist mwyaf cyffrous.
Dyma rai o’r bandiau ac artistiaid o Gymru i gadw llygad a chlust arnynt.
Testunau:
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.