Yn 2000, lansiwyd PRS Foundation i gefnogi doniau cerddorol o bob cefndir, ym mhob genre, drwy’r Deyrnas Unedig gyfan. Drwy fuddsoddi mewn cerddoriaeth ar lawr gwlad, y nod yw galluogi artistiaid a chyfansoddwyr i gael gyrfaoedd hir, cynaliadwy yn y diwydiant.
Fe gawson ni sgwrs â John Hendrickse, Rheolwr Grantiau a Rhaglenni PRS Foundation, gan ofyn am ei gyngor am sut i gryfhau eich proffil fel cerddor ac artist.
1. Chwiliwch am gyfleoedd i gael cyllid
Ers ei lansio, mae PRS Foundation wedi rhoi dros £44 miliwn mewn grantiau i dros 8,500 o fentrau cerddorol newydd. Mae ffrydiau cyllid y sefydliad yn cynorthwyo cerddorion ym mhob cam yn eu gyrfa. Maen nhw’n cynnwys cymorth ariannol i artistiaid sydd newydd ddechrau arni a chyllid i helpu’r rheini sydd o fewn dim i fod yn llwyddiannus i ddringo i’r lefel nesaf.
"Mae gennyn ni hefyd gymorth rhyngwladol" meddai John, "felly pan fydd artistiaid yn arddangos eu doniau ym mhob cwr o’r byd, gallwn ni roi cymorth ariannol iddyn nhw fynd yno i greu argraff."
Ymhlith yr artistiaid niferus o Gymru sydd wedi elwa o gymorth ariannol mae L E M F R E C K a Kima Otung. Yn achos L E M F R E C K, fe wnaeth cyllid POWER UP ei helpu i ryddhau ei albwm, Blood, Sweat and Fears. Roedd perfformwyr fel Manga Saint Helaire, ynghyd â’r artistiaid o Gymru, Luke RV a Marino, yn ymddangos ar y tâp cymysg tair rhan.
Aeth y rapiwr a’r cynhyrchydd ati hefyd i greu a chyflwyno’r rhaglen ddogfen Black Music Wales. Rhaglen oedd hon yn olrhain treftadaeth cerddoriaeth Ddu yng Nghymru ac yn ein cyflwyno i artistiaid cyfoes gan gynnwys Ogun, Mace The Great, Sage Todz a Juice Menace.
Yn achos Kima – a gafodd ei henwi’n ddiweddar yn Arweinydd y Dyfodol mewn cerddoriaeth a diwylliant Du gan Google Arts & Culture a TRENCH – rhoddodd cyllid gan PPL Momentum gymorth iddi ryddhau ei EP, 'The Immigrant Kid'. Aeth cyllid POWER UP wedyn tuag at ddatblygu Insidr Music; ap tanysgrifio a gyd-sefydlwyd ganddi a hwnnw’n creu cysylltiad uniongyrchol rhwng artistiaid a’u cefnogwyr. Mae’n talu 4000% yn fwy i artistiaid na phlatfformau ffrydio eraill.
2. Datblygwch eich rhwydwaith
Mae datblygu perthnasau gyda’r bobl yn eich rhwydwaith lleol – boed hynny ar y cyfryngau cymdeithasol neu mewn bywyd go iawn – yn gallu helpu i sicrhau bod lleoliadau a hyrwyddwyr yn gwybod amdanoch chi.
Mae John yn esbonio:"Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg i’r hyn rydych chi’n ceisio’i wneud, ewch i sgwrsio â nhw a gofyn am gyngor. Os ydych chi’n artist, chwiliwch am artistiaid eraill y gallwch chi sgwrsio am eich profiadau â nhw."
Yn ogystal â rhoi cyllid, mae PRS Foundation hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant, a hynny drwy greu rhwydweithiau mewn ffordd gynhwysol ac arloesol. Yn eu plith mae rhwydweithiau fel POWER UP, sy’n ceisio mynd i’r afael â hiliaeth gwrth-Ddu yn y byd cerddoriaeth.
Meddai John, "Nid cynllun ariannu’n unig ydy POWER UP. Mae cyfarfodydd a gweminarau rheolaidd yn cael eu trefnu am wahanol elfennau yn y diwydiant y bydd pobl greadigol am ymwneud â nhw."
Mae modd darllen mwy am POWER UP yn ein cyfweliad â’r artist a’r cyflwynydd Aleighcia Scott.
3. Meddyliwch fel busnes
Yn ogystal â chwilio am gyllid a datblygu eich rhwydwaith, mae John yn dweud ei bod hi’n bwysig adnabod y diwydiant: "Mae’n debyg i bopeth arall; mae’n rhaid i chi weithio’r oriau, ond nid yn y stiwdio’n unig; mae’n golygu treulio oriau’n deall y busnes rydych chi’n ceisio dod yn rhan ohono."
"Os nad oes gennych chi’r pen busnes hwnnw, chwiliwch am rywun sydd â’r pen hwnnw, a rhywun sy’n credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud. Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych chi’n dechrau gwneud arian, gofalwch fod gennych chi’r bobl iawn i’ch helpu."
"Dylai cael asiant, neu o leiaf sgwrsio am gael eich cynrychioli, arwain at fwy o gyfleoedd i berfformio. Os yw asiantau’n dangos diddordeb ynoch chi, gwahoddwch nhw i berfformiadau byw er mwyn iddyn nhw allu gweld y cynnyrch y byddan nhw’n ceisio’i werthu yn yr amgylchedd lle bydd hynny’n digwydd."
Mae sefydliadau fel Undeb y Cerddorion, PPL a PRS hefyd wrth law i roi cyngor am bopeth o faterion hawlfraint i ddeall breindaliadau a chofrestru i gael breindaliadau.
PRS Foundation"Os nad oes gennych chi’r pen busnes hwnnw, chwiliwch am rywun sydd â’r pen hwnnw, a rhywun sy’n credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud."
4. Edrychwch ar ffrydiau refeniw gwahanol
Yn olaf, dewch i ni siarad am refeniw. O deithio i werthu nwyddau, o ffrydio i’r cyfryngau cymdeithasol: mae modd i artistiaid wneud arian drwy eu cerddoriaeth mewn nifer o wahanol ffyrdd.
Ffordd boblogaidd yw drwy ‘syncs’: dyma pryd y bydd caneuon yn cael eu dewis i’w defnyddio mewn ffilmiau, cyfresi teledu, hysbysebion ac ati. Mae cytundebau sync gan amlaf yn cael eu trefnu rhwng cyhoeddwr cerddorol a darpar gleient, sef goruchwyliwr cerdd neu gynhyrchydd ffilm, fel rheol.
Mae John yn esbonio: "Rydw i wedi gweithio gyda nifer o artistiaid annibynnol ac un o’r ffyrdd o greu arian oedd drwy syncs. Fe wnaethon ni ddod o hyd i gwmni oedd â model ar gyfer gweithio gydag artistiaid annibynnol; doedden nhw ddim yn dod o hyd i syncs i’w rhoi ar unrhyw ffilm neu sioe deledu dan haul. Yn hytrach, roedden nhw’n chwilio am sioeau oedd yn berthnasol yn ddiwylliannol, ac a allai dyfu’r gynulleidfa."
Yn y pen draw, mae hon yn ffordd wych o gael mwy o ddilynwyr. Wedi’r cyfan, fel y dywed John, fe allwch chi roi arian y tu ôl i’ch cerddoriaeth, ond mae’n rhaid i honno gysylltu â’r gynulleidfa iawn: "Dyna ble mae’n rhaid i chi fod yn weddol glyfar. A chithau’n artist, mae hynny’n gallu bod yn beryglus; dydych chi ddim eisiau i’r gân gysylltu mwy na chi."
Yn gyffredinol, mae’n gallu bod yn anodd canfod eich lle yn y diwydiant hwn, ac mae datblygu’n gallu bod yn broses anodd. Oherwydd hynny, mae’n bwysig chwilio am gymaint o help a chymorth ag y gallwch chi.
Meddai John, ‘"yna un rheswm pam ei bod hi’n bwysig cael sefydliadau a chynlluniau fel PRS Foundation, Youth Music Undeb y Cerddorion, yr Open Fund for Music Creators, Women Make Music, y PPL Momentum Fund, y PPL Momentum Accelerator , Cronfa Lawnsio Gorwelion BBC Cymru, a Cymru Greadigol i gefnogi datblygiad y diwydiant cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig."
I gael rhagor o wybodaeth am beth all PRS Foundation ei wneud drosoch chi, ewch i’w gwefan i ddysgu mwy am y prosiectau, y cynlluniau a’r cyfleoedd am gyllid sydd ar gael. Gallwch hefyd fynd i’n gwefan ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd cyllid Cymru Greadigol.