Bydd FOCUS Wales – yr ŵyl arddangos ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam bob blwyddyn – yn dathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed yn 2025. A honno wedi’i sefydlu gan Neal Thompson ac Andy Jones, dyma ŵyl sy’n rhoi llwyfan i egin artistiaid o Gymru ochr yn ochr â doniau cerddorol newydd o bedwar ban byd.
Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad yn denu dros 22,000 o bobl i Wrecsam dros dridiau, gan roi llwyfan i fwy na 250 o artistiaid ar 20 o lwyfannau. Yn ogystal â’r ŵyl ei hun, mae FOCUS Wales yn cynnal digwyddiadau mewn gwyliau arddangos ledled y byd, a rydyn ni'n falch fod wedi cefnogi llawer ohonyn nhw dros y pedair blynedd ddiwethaf. Ymhlith y perfformwyr nodedig sydd wedi ymddangos yn y gwyliau arddangos hyn mae Adwaith, Cate Le Bon, Kelly Lee Owens, a Gruff Rhys.
Cawson ni sgwrs â Neal am waith FOCUS Wales, am sut mae’n ceisio helpu i ddatblygu diwydiant cerddoriaeth hunangynhaliol yng Nghymru. Siaradodd hefyd am yr angen am seilwaith i gefnogi artistiaid sydd ar ddechrau’u gyrfaoedd, a rhoddodd ambell air o gyngor i artistiaid newydd sy’n ystyried gwneud cais i berfformio.


Gwaith FOCUS Wales
Mae Andy a Neal wedi bod yn rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, ac maen nhw eu hun wedi chwarae mewn gwyliau arddangos ym mhob cwr o’r byd. Wrth gael y profiadau hyn, sylweddolodd y ddau fod ar Gymru angen ei gŵyl arddangos ei hun: gofod i roi llwyfan i artistiaid Cymru ac i feithrin cysylltiadau â gwyliau arddangos eraill yn y pedwar ban.
Yn ôl Neal, hanfod gwaith FOCUS Wales yw hybu a datblygu artistiaid o Gymru, gan agor drysau i'r diwydiant a chynulleidfaoedd rhyngwladol ar yr un pryd. Dyna pam fod elfen ryngwladol yr ŵyl, lle byddan nhw’n croesawu perfformwyr o bob cwr o’r byd, wedi bod yn ganolog o’r dechrau’n deg.
"Drwy’r ŵyl yn Wrecsam, fe lwyddon ni i greu rhwydwaith ar gyfer allforio. Fe lwyddon ni i greu cysylltiadau, cyrraedd marchnadoedd eraill, ymwneud â chynrychiolwyr rhyngwladol, a chreu rhwydwaith byd-eang,’"meddai Neal.
Mae hynny’n golygu rhoi cyfleoedd i artistiaid o Gymru chwarae mewn gwyliau arddangos ym mhob cwr o’r byd. Mae digwyddiadau fel Eurosonic yn yr Iseldiroedd a SXSW yn y Unol Daleithiau yn rhoi cyfleoedd i artistiaid o Gymru gyrraedd cynulleidfaoedd, cyrraedd rhwydweithiau’r diwydiant, a chyrraedd marchnadoedd rhyngwladol o bwys.
"Mae’r darn o’r jig-so ar goll a rydyn ni’n ei lenwi yn FOCUS Wales yn weddol bwysig yn y cyd-destun ehangach," meddai Neal. "Yng Nghymru, rydyn ni’n dda iawn am greu doniau cerddorol sy’n gallu serennu’n fyd-eang. Yn FOCUS, drwy osod y sylfeini i helpu i ddatblygu’r seilwaith yn y wlad hon, fe allwn ni barhau i wneud hynny ar y lefel uchaf."


Neal, Focus WalesRydyn ni yma i gynrychioli popeth sy’n digwydd yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu unrhyw gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yng Nghymru gan bobl sy’n byw yng Nghymru, mewn unrhyw genre ac unrhyw iaith."
Cyngor i artistiaid
Felly, sut mae artistiaid yn gwneud cais i chwarae yn FOCUS Wales yn Wrecsam neu yn un o’r arddangosfeydd rhyngwladol? Yn gyntaf, bydd holl artistiaid y wlad yn cael galwad agored, ac mae hynny’n bwysig, yn ôl Neal.
"Rydyn ni’n gweithio gyda llawer o bartneriaid gwahanol a gyda llawer o bobl i sicrhau bod cynifer o artistiaid â phosibl yn clywed am y cyfle,’ meddai Neal. ‘Rydyn ni yma i gynrychioli popeth sy’n digwydd yng Nghymru, ac mae hynny’n golygu unrhyw gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yng Nghymru gan bobl sy’n byw yng Nghymru, mewn unrhyw genre ac unrhyw iaith."
Yn achos arddangosfa Wrecsam yn unig, mae tîm helaeth o arbenigwyr a phartneriaid yn rhan o’r broses ddethol, o raglenni sy’n gweithio gyda nifer o wyliau a lleoliadau, i grwpiau cymunedol sy’n gwybod am y doniau lleol.
Gyda dros 5,000 o geisiadau o Gymru bob blwyddyn i ymddangos yn Wrecsam ac yn yr arddangosfeydd rhyngwladol, mae tomen o waith i’w wneud i ddewis pwy fydd yn bachu un o’r 250 o slotiau. "Rydyn ni’n gwrando ar bob un o’r artistiaid sy’n gwneud cais," meddai Neal. "Mae’n fater wedyn o ddewis a dethol pwy sy’n mynd i allu manteisio ar y slotiau."
Yn achos yr arddangosfeydd rhyngwladol, timau eraill o arbenigwyr sy’n dewis y perfformwyr. Wrth gwrs, byddan nhw’n sgwrsio â Neal ac Andy a gweddill tîm FOCUS, ond eu penderfyniad nhw fydd hwn yn y pen draw.
Boed yn Wrecsam neu yn un o’r arddangosfeydd rhyngwladol, mae FOCUS wastad yn barod i hwyluso’r digwyddiad a sicrhau bod artistiaid yn gallu manteisio i’r eithaf ar y profiad. Yn ogystal â’r perfformiadau cerddorol, bydd cyfleoedd i’r artistiaid fod yn rhan o baneli, seminarau a thrafodaethau ag arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiant – a’r cyfan yn ceisio’u helpu i rwydweithio a chynllunio eu cam nesaf.
Yn ôl Neal: "Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r artistiaid i sicrhau eu bod nhw’n denu sylw’r bobl maen nhw eisiau rhwydweithio gyda nhw. Rydyn ni wastad yn ceisio plannu hadau, creu cyfleoedd, a sicrhau bod modd i’r artistiaid fanteisio i’r eithaf ar y rheini."
Pa gyngor fyddai Neal yn ei roi i artistiaid sy’n gwneud cais am slot? Dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi am ddefnyddio’r gynhadledd gerddorol er mwyn rhoi hwb i’ch gyrfa. "Dyna rydyn ni eisiau’i glywed," meddai Neal. "Nid dim ond gŵyl fydd hon lle byddwch chi’n cyrraedd yno ac yn chwarae. Yr holl bwynt ydy eich bod chi’n defnyddio’r cyfle i arddangos i greu cyfle i chi’ch hun."
"Esboniwch beth fyddech chi’n hoffi’i gyflawni drwy chwarae yno, ac esboniwch beth sy’n cyfyngu arnoch chi hefyd. Rydyn ni wastad eisiau clywed hynny."


Gweithio gyda Cymru Greadigol
Mae deall y rhwystrau sy’n wynebu artistiaid o Gymru yn hollbwysig i FOCUS. Drwy gasglu’r wybodaeth hon, gobaith y sefydliad yw creu darlun ehangach o’r heriau y mae artistiaid yn eu hwynebu yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Yn ôl Neal: ‘Rydyn ni’n gallu gweithio’n agos iawn gyda phobl, ar lefel bersonol, ond drwy gymryd cam yn ôl, rydyn ni hefyd yn gallu sylwi ar yr heriau cyffredin yn y diwydiant.’
Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi rhoi cyllid i FOCUS Wales i’w helpu nhw i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yn y wlad.
‘Mae gennyn ni a Cymru Greadigol lawer o egwyddorion sy’n gyffredin. Gyda’n gilydd, fe allwn ni ddechrau edrych ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud i ddeall anghenion y diwydiant a’i seilwaith.’
‘Mae yna lawer mwy o hyder yn y diwydiant cerddoriaeth erbyn hyn. Fe hoffwn i feddwl bod y rhan fechan rydyn ni’n ei chwarae wrth geisio arddangos popeth sy’n digwydd yng Nghymru yn bwysig. Rydyn ni eisiau rhoi sylw i’r hyn mae cerddorion ac artistiaid o Gymru yn ei gyflawni a beth y gallan nhw’i gyflawni.’
Mae rhaglen arddangos 2024/2025 yn cynnwys:
• New Skool Rules, Yr Iseldiroedd
• Reeperbahn Festival, Yr Almaen
• Breakout West, Canada
• Zandari Festa, De Korea
• M for Montreal, Canada
• Eurosonic, Yr Iseldiroedd
• New Colossus, UDA
• SXSW, UDA