O seiniau arloesol L E M F R E C K i felodïau swynol Megan Wyn, mae to newydd o gerddorion yn prysur ddod i’r amlwg ac yn ailddiffinio sîn gerddoriaeth Cymru heddiw.

Darllenwch fwy am rai o’r artistiaid arloesol rydyn ni’n falch o fod wedi’u cefnogi. Yn eu plith mae sawl un a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024. Mae enwebeion y gorffennol, yn cynnwys Buzzard Buzzard Buzzard.

close up of Aleighcia's face, smiling with eyes closed

Aleighcia Scott

Mae Aleighcia Scott yn bresenoldeb mawr yn y sîn gerddoriaeth Gymreig, ac yn un o sêr disgleiriaf y byd reggae. Mae’r artist, sydd o gefndir Cymreig a Jamaicaidd, yn cyfuno alawon teimladwy â geiriau grymus, a’r rheini’n taro tant ymhlith ei gwrandawyr.

Gydag emosiwn yn ei llais a’r gallu i ennyn sylw ar y llwyfan, mae Aleighcia’n prysur ddod yn llais o bwys yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru. I glywed mwy am ei phrofiad gyda chynllun POWER UP Sefydliad PRS, ewch i fan hyn Mae ei halbwm cyntaf, Windrush Baby, wedi cyrraedd y rhestr fer am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

 

L E M F R E C K

A hwnnw wedi’i enwi ddwywaith am wobrau BAFTA Cymru, mae L E M F R E C K  yn creu gofod unigryw iddo’i hun yn sîn gerddoriaeth Cymru gyda’i gyfuniad o eiriau tra phersonol a churiadau o fyd grime.

Mae’r rapiwr, a anwyd yng Nghasnewydd ond sydd bellach yn byw yn Llundain, yn mynd i’r afael â themâu amrywiol yn ei gerddoriaeth. Yn aml, bydd yn sôn am ei wreiddiau yng Nghymru a phrofiadau’r gymuned Ddu yn y wlad.

Lemfreck hefyd yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 am ei albwm Blood, Sweat and Fears, a hynny’n arwydd o’r argraff y mae’n ei chael yn y diwydiant.

LEMFRECK

Mellt

Yn hanu o Aberystwyth ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Mellt  yn fand Cymraeg egnïol sydd wedi hoelio’r sylw yn y byd cerddorol.

Yn driw i’w henw, mae Mellt yn enwog am eu perfformiadau bywiog a llachar, fel y gwelwyd pan oedden nhw’n brif act ein digwyddiad Klust yn Llundain Yn ôl yr NME, mae eu hail albwm, Dim Dwywaith, yn cyrraedd ‘tiriogaethau cerddorol newydd eang’, ac mae’r albwm hefyd wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

 

two male band members perform on stage with guitars

Ffatri Jam

Yn 2022 y ffurfiwyd Ffatri Jam, band roc caled dwyieithog o Ynys Môn a Chaernarfon. Er eu bod nhw’n act newydd, maen nhw’n prysur ddod yn un o fandiau mwyaf blaenllaw’r gogledd, gan lanio ar y sîn yn llawn egni pur a sŵn heintus. Dyma fand i gadw llygad arno, heb os.

Gyda phob un o'u senglau wedi'u dewis a chwarae ar y radio gan Alyx Holcombe ar sioe Introducing Rock BBC Radio 1, ac Adam Walton ar sioe BBC Introducing yng Nghymru, maen nhw'n bendant yn fand i cadwch lygad ar.

Five men stand in a line looking straight ahead with an industrial background

The Stray Pursuit

Band alt-roc o Abertawe yw The Stray Pursuit ac maen nhw wedi denu tipyn o sylw gyda’u riffs bachog a’u halawon nerthol. Mae’r Stereophonics a Kasabian ymhlith eu dylanwadau. Yn ddiweddar, maen nhw wedi gweithio gyda Romesh Dodangoda, sydd wedi’i enwebu ddwywaith am wobrau Grammy, ar eu EP sydd i’w ryddhau cyn hir.

Luke RV

Artist o Gastell-nedd sy’n prysur wneud enw iddo’i hun yw’r rapiwr a’r canwr-gyfansoddwr, Luke RV. Ac yntau bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn flaenllaw yn y sîn gerddoriaeth sy’n tyfu yno, bydd Luke yn adrodd straeon grymus er mwyn cyfleu realiti bywyd yn y de.

Mae’i sain unigryw yn perthyn i don newydd o artistiaid hip-hop sy’n ailddiffinio’r genre yng Nghymru. Ar ôl cael arian Momentum, ac ymddangos yn brif act am y tro cyntaf yn Llundain yn ddiweddar, mae Luke RV yn artist sy’n addo pethau mawr.

Half Happy

Band pedwar aelod o Gaerdydd yw Half Happy ac maen nhw wedi bod yn ffrindiau ers dros ddegawd. Maen nhw’n disgrifio eu sŵn fel cyfuniad o bop breuddwydiol, roc indie, a post-punk, a hwnnw’n creu haenau o alawon bachog a geiriau gonest.

Ar ôl denu sylw Adam Walton ar BBC Introducing, cawson nhw’u henwi yn artist yr wythnos gan Huw Stephens. Yn ogystal â chwarae yng ngwyliau Focus, y Dyn Gwyrdd a Sŵn yn 2024, dathlodd y band sioe gyntaf lle gwerthwyd pob tocyn, ynghyd â chael slot fel prif act yng Nghlwb Ifor Bach. Mae eu EP cyntaf, Conversation Killer, ar gael i’w brynu nawr.

four male band members and one female stood outside a music venue/pub
Black and white image of young female with dark air and fringe sings into a microphone which is decorated with sunflowers

Duke Al

Artist sy’n cyfuno hip-hop a pherfformio barddoniaeth yw Duke Al o Gaerdydd a dyma lais sy’n gwneud enw iddo’i hun yn y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

Mae Duke Al yn adnabyddus am ei dechneg lefn a’i eiriau siarp, tra bo’i ganeuon yn procio’r meddwl ond hefyd yn taro tant ymysg ei gynulleidfa. Yn ogystal â chreu gwaith i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Gemau Olympaidd Paris, mae hefyd yn gyfrifol am ddigwyddiadau’r Poet Treehouse.

 

Megan Wyn

Yn olaf, dyma Megan Wyn, sy’n adnabyddus am ei ffurf unigryw ei hun ar bop cyfoes. A hithau wedi’i magu ar Ynys Môn, mae Megan yn disgrifio’i harddull gerddorol fel pop indie breuddwydiol, hiraethus.

Ar ôl ymddangos yng ngwyliau Ynys Wyth, Kendal Calling a Truck, mae hi’n un o sêr y dyfodol sydd â´r potensial i ddod yn un o leisiau blaenllaw’r genhedlaeth newydd.

Ewch i wefan y Wobr Gerddoriaeth Gymreig i weld rhestr fer 2024. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, ewch i’n tudalen am gerddoriaeth

Straeon cysylltiedig