Mae'r cyfan yn dechrau gyda geiriau ar bapur ond nid dyna ddiwedd y stori. Mae cyhoeddi yn cefnogi cyfoeth o weithgarwch creadigol ledled Cymru.
Mae cynhyrchwyr ffilm, teledu a theatr yn addasu ein llyfrau ar gyfer llwyfannau rhyngwladol. Mae artistiaid gweledol yn llunio darluniau bywiog, nofelau graffig a dyluniadau clawr. Yna mae ecosystem gyfan o gyhoeddwyr ac argraffwyr annibynnol, gwyliau lleol a llyfrwerthwyr annibynnol sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.
Trwy ariannu ein partneriaid, Cyngor Llyfrau Cymru, rydym yn darparu gwasanaeth allweddol i’r diwydiant cyhoeddi. Boed chi’n cyhoeddi llyfrau neu gylchgronau, yn Gymraeg neu Saesneg (neu’r ddau), mewn print neu’n ddigidol, rydym yma i’ch cefnogi.
Mae gennym angerdd am eiriau. Drwy gefnogi cyhoeddwyr, mae ein partneriaid Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi awduron, golygyddion a phawb arall sy'n ymwneud â chyhoeddi, gan sicrhau bod y straeon gorau yn cyrraedd eu cynulleidfa.
Ymgyrch #CaruDarllen Cyngor Llyfrau Cymru
Dewch i ddarganfod yr ymgyrch sy’n annog plant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed i rannu eu cariad at ddarllen
Testunau:
Rebecca Roberts: awdur arobryn dwyieithog
Rebecca’n trafod llyfrau, dwyieithrwydd a bod yn rhan o gymuned o awduron Cymraeg.
Testunau:
Darganfyddwch y diweddaraf o fyd cyhoeddi Cymru
Prif deitlau, cwmnïau a thalent y sin gyhoeddi yng Nghymru.
Testunau:
Cyn ichi ddechrau…
Animeiddiadau
Mae’r safle hwn yn defnyddio animeiddio – fe allan nhw achosi problemau i rai pobl ac mae modd eu diffodd.