Ein rôl ni yw darparu cefnogaeth ac adnoddau i helpu i feithrin talent. Os am gael cyngor ar gyfleoedd hyfforddi lefel mynediad neu wybodaeth am raglenni datblygu sgiliau – sgroliwch i lawr i ddarganfod rhai o'r gwahanol lwybrau, hen a newydd, sydd ar gael gennym ni a'n partneriaid.
Rhaglen Prentisiaeth Cynhyrchu CRIW yn y De a’r Gogledd
I'r rhai sy'n awyddus i weithio y tu ôl i'r llenni ar rai o gynyrchiadau teledu a ffilm gorau Cymru, mae CRIW yn cynnig cynllun prentisiaeth diddorol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael profiad ymarferol â thâl ar draws amrywiaeth o gynyrchiadau am gyfnod o 12 mis. Mae cynyrchiadau blaenorol yn cynnwys War of the Worlds a His Dark Materials.
Rhagor o wybodaeth: CRIW Sgil Cymru
Rhaglen Allgymorth Buzz Culture
Mae'r rhaglen hon yn cefnogi pobl 18-30 oed sy'n byw yng Nghymru sydd am lwyddo yn y diwydiannau creadigol. Dros gyfnod o wyth wythnos, mae'r prosiect hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau ysgrifennu, cwrdd â phobl greadigol ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth: Buzz Culture
rad Cymru Wales
Rydym wedi partneru gyda TRC, y BBC, Channel 4 ac S4C i lansio rhaglen hyfforddi newydd gyda'r nod o fynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth mewn darlledu yng Nghymru. Bydd y rhaglen gyflogedig wyth mis hon ar gael i wyth hyfforddai a fydd yn gweithio o fewn cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru. Mae'r hyfforddeiaeth wedi'i hanelu at bobl sydd wedi'u tangynrychioli yn y diwydiant teledu, yn benodol pobl o gymunedau Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, y rhai o gefndiroedd difreintiedig a phobl ag anableddau.
Rhagor o wybodaeth: rad Cymru Wales
Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru
Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Cymru Greadigol a BBC Cymru Wales, Channel 4 ac S4C a gynlluniwyd i gefnogi cynhyrchwyr ffeithiol talentog yng Nghymru. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill hyfforddiant yn y diwydiant a hyfforddiant cynhyrchu â thâl, ochr yn ochr â mentora gan gomisiynwyr. Bydd dau o'r chwe lle yn cael eu clustnodi ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Mae ceisiadau ar gau ar hyn o bryd. Dewch yn ôl cyn bo hir am fwy o wybodaeth.
Hwb Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol (NFTS) Cymru-Wales
Mae'r hwb yma’n bartneriaeth rhwng Cymru Greadigol, BBC Cymru a'r NFTS. Wedi'i leoli yn BBC Cymru yn Sgwâr Canolog Caerdydd, mae'r prosiect hwn yn darparu ystod eang o gyrsiau hyfforddi o'r radd flaenaf. Mae bwrsariaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer pob cwrs.
Rhagor o wybodaeth: NFTS Cymru Wales
Camu Fyny 2022
Mae'r rhaglen bartneriaeth hon, sy'n cael ei rhedeg gan Sgil Cymru ac a ariennir ar y cyd gan Screen Skills, yn canolbwyntio ar helpu criw drama deledu llawrydd presennol i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd.
Rhagor o wybodaeth: Camu Fyny 2022
Iechyd Da, CULT Cymru
Mae Cult Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd mentora a hyfforddi i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae'r rhain yn cynnwys hyfforddiant iechyd meddwl ac amrywiaeth a hyfforddiant i hwyluswyr lles. Edrychwch ar eu gwefan i ddarganfod pa gyfleoedd dysgu sydd ar gael.
Rhagor o wybodaeth: CULT Cymru
Cyswllt Diwylliant Cymru
Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Cymru Greadigol a darlledwyr, BBC Cymru, Channel 4, ITV ac S4C. Bydd yn cyflwyno rhaglen 12 mis gyda'r nod o gefnogi talent amrywiol ledled Cymru i ddod o hyd i gyfleoedd ym maes ffilm a theledu. Fe'i cynlluniwyd i gynnig cyngor a chymorth i'r rhai sydd am newid gyrfa, yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am gyfleoedd newydd.
Rhagor o wybodaeth: Cyswllt Diwylliant Cymru
Corff Sgiliau Creadigol
Gan gynnwys y sectorau sgrîn, digidol a cherddoriaeth, mae'r Corff Sgiliau Creadigol yn rhaglen newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n eistedd o fewn Cymru Greadigol. Bydd yn cael ei arwain gan banel cynghori a fydd yn creu cynllun gweithredu tair blynedd. Fel rhan o hyn, bydd cronfa sgiliau newydd hefyd yn cael ei lansio i gyflawni blaenoriaethau'r cynllun. Mae'r fenter hon yn dal i fod ar y gweill – dewch yn ôl yn fuan i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaglen Sgiliau Hyblyg Creadigol
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r rhaglen hon wedi’i dylunio i annog a chefnogi datblygiad sgiliau gweithwyr cwmnïoedd yn y sector greadigol. Gall roi cyfraniad ariannol tuag at gostau hyfforddi staff cyflogwr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. O hyfforddiant crefft, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu i ddefnyddio technoleg newydd, nod y rhaglen hon yw gwella sgiliau eich pobl greadigol.
Rhagor o wybodaeth: Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)