Mae Indielab Games yn bodoli i helpu’r diwydiant gemau i dyfu. Trwy ddosbarthiadau meistr, seminarau a digwyddiadau wedi’u cynnal yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, aeth y sefydliad ati i helpu sylfaenwyr ac arweinwyr busnes yn y sector gemau i yrru’r diwydiant yn ei flaen.
Fel rhan o’r genhadaeth hon, lansiodd y cwmni raglen rithiol ac wyneb yn wyneb newydd: Sbardun Gemau Indeilab Games 2023. Mae’r prosiect newydd hwn yn un o’r prosiectau sy’n derbyn cymorth Cronfa Sgiliau Creadigol 2023/24 a’i nod yw darparu tri mis o gymorth i stiwdios gemau newydd ledled Cymru. Fe wnaeth y cyfranogwyr elwa o ddosbarthiadau meistr a sesiynau briffio manwl a phwrpasol gydag arweinwyr o fewn y diwydiant, stiwdios mawr, buddsoddwyr, cyhoeddwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau o bob rhan o’r sector gemau. Rhoddwyd y cyfle iddyn nhw hefyd glywed gan arbenigwyr cyfreithiol ac ariannol.
Y gobaith yw bod y prosiect, sydd bellach bron â chael ei gwblhau, wedi helpu stiwdios gemau i ddatgloi eu potensial i barhau i dyfu, arloesi, a denu buddsoddiad i Gymru yn y dyfodol. Dywed Indielab fod y rhaglen yn seiliedig ar werthoedd craidd – golyga hyn mai eu tasg oedd sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall ei bod yn hanfodol hyrwyddo diwydiant gemau cynhwysol ac amrywiol er mwyn cael llwyddiant creadigol a masnachol yn y tymor hir.
Fel rhan o’r rhaglen, fe wnaeth Caerdydd – ynghyd â Glasgow a Llundain – gynnal sawl digwyddiad rhwydweithio ar draws y diwydiant. Eu nod oedd dod â’r gymuned gemau at ei gilydd a chreu cyfleoedd i rwydweithio, yn ogystal â gwaith ar y cyd a phartneriaethau yn y dyfodol. Roedd yna hefyd sesiynau rhithiol ychwanegol yn gwahodd cwmnïau i fynychu gweithdai cyflwyno syniadau.
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cronfa Sgiliau Creadigol, ewch i. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am y gwaith mae Indielabs yn ei wneud trwy fynd i’w gwefan.