Mae Bectu a CULT Cymru wedi lansio prosiect newydd sydd â’r nod o gefnogi a grymuso gweithwyr llawrydd creadigol ar draws y sectorau sgrin, digidol a cherddoriaeth yng Nghymru.
Mae’r cynllun Grymuso Gweithwyr Creadigol Llawrydd yn un o’r prosiectau sy’n derbyn cymorth ein Cronfa Sgiliau Creadigol ar gyfer 2023/24. Mae’r prosiect dwy ran hwn am chwilio am ffyrdd newydd o fynd i’r afael a’r anfanteision y mae gweithwyr llawrydd yn eu hwynebu yn y gweithle – yn benodol o ran cyfleoedd sgiliau a lles.
Mae rhan gyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar recriwtio 12 unigolyn llawrydd i fod yn Gynrychiolwyr Dysgu Undeb (CDU) o Bectu, Equity, Undeb y Cerddorion ac Urdd yr Awduron. Eu rôl yw nodi a datblygu gweithgareddau dysgu a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr llawrydd. Eu nod yw grymuso gweithwyr llawrydd trwy godi ymwybyddiaeth am y pŵer o ddysgu drwy’r undebau.
Mewn llawer o sectorau, mae’r CDU yn chwarae rôl ddylanwadol i gefnogi, datblygu a gwella’r diwylliant gweithio. Fodd bynnag, gan nad oes gan weithwyr llawrydd gyflogwyr parhaol a all eu talu i ymgymryd â’r rôl hon, maen nhw’n colli allan ar allu datblygu eu gyrfaoedd trwy wella eu sgiliau.
Bydd ein cyllid ni’n helpu Bectu a CULT Cymru i hyfforddi a thalu CDU llawrydd, yn ogystal â nodi sut y gallai’r diwydiant dalu am y rôl hon ar ôl i’r prosiect hwn ddod i ben. Bydd hefyd yn helpu i daflu goleuni ar bwysigrwydd gweithwyr creadigol llawrydd – gan ysgogi twf yng ngyrfa’r unigolyn a dod â budd i’r diwydiant.
Bydd rôl y 12 o Gynrychiolwyr Dysgu Undeb yn cynnwys trefnu rhwydweithiau cymheiriaid a chydweithio ag undebau, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd y CDU hefyd yn helpu i drefnu gweithgareddau dysgu, yn ogystal â chanolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o werth dysgu. Yn ogystal, byddan nhw’n cael y dasg o gynnal ymchwil er mwyn nodi’r prif anghenion dysgu o fewn eu grŵp o weithwyr.
Mae rhai o’r cyrsiau sydd eisoes yn cael eu datblygu’n cynnwys cwrs hunan-dâp ar gyfer actorion, hyfforddiant i awduron, cwrs cyfansoddi caneuon a chwrs torri patrymau.
Mae ail ran y prosiect yn canolbwyntio ar hyfforddi Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (SCCIM). Fel y CDU, nid oes gan weithwyr llawrydd un cyflogwr penodol i’w hyfforddi, eu datblygu neu ddarparu cymorth parhaus yn y maes hwn. Gan gydnabod hyn, mae CULT Cymru eisiau cyflwyno hyfforddiant SCCIM ar draws y sectorau cerddoriaeth, digidol a sgrin.
Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â chyflogwr i nodi ble mae Swyddogion o’r fath ar gael; darganfod sut gallai’r diwydiant gynnig mwy o gymorth; a darganfod ble mae bylchau o ran hyfforddiant. Byddan nhw hefyd yn sicrhau bod gweithwyr llawrydd yn gwybod sut i gael gafael ar SCCIM ac yn cynnig cymorth a hyfforddiant parhaus ar gyfer y rhwydwaith hwn.
Os hoffech chi wybod mwy am ein Cronfa Sgiliau Creadigol, tapiwch yma. Neu, os hoffech chi glywed mwy am y cynllun Grymuso Gweithwyr Creadigol Llawrydd yna gallwch fynd i’w gwefan.