Fy enw i yw Will Morris-Julien a fi yw cyfarwyddwr creadigol a chyd-sylfaenydd Goldborough Studio. Mae gen i 30+ mlynedd o brofiad o ddylunio ar gyfer y cyfryngau digidol ac rwyf wedi bod yn gyfarwyddwr creadigol i Wunderman, Virgin a Greenpeace International.
Ffurfiwyd Goldborough Studio yn 2012 ac mae'n ddatblygwr gemau annibynnol sy'n creu gemau a chynnwys dan arweiniad cymeriad gan ddefnyddio pensiliau, picselau, gwybodaeth, ac ychydig o hud a lledrith. Yn ystod yr un mlynedd ar ddeg ers inni ffurfio, rydym wedi darparu datblygiad gweledol, dylunio cymeriadau, a chynnwys ar gyfer un ar ddeg o gemau, pedair ffilm nodwedd, a dau animeiddiad.
Mae'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn wych. Mae pawb yn hynod gyfeillgar, ac mae teithio gyda chenhadaeth fasnach Cymru Greadigol yn brofiad gwych. Mae'n clymu'r cwmnïau gemau Cymreig at ei gilydd a rydych yn cwrdd â chymaint o bobl. Dwi'n edrych ymlaen at weld popeth – mae cymaint i’w weld yn yr expo! Y tro diwethaf, roedd ardal y gemau annibynnol yn uchafbwynt.
Mae'n bwysig i gwmnïau gemau o Gymru ddod i'r GDC fel rhan o daith masnach Cymru Greadigol. Yn gyntaf, GDC yw'r lle mae cytundebau'n dechrau - nid ydynt o reidrwydd wedi'u llofnodi a'u selio yn y gynhadledd, ond dyma'r lle i gyflwyno. Felly, os ydych chi o ddifrif am ddod o hyd i gyhoeddwyr, buddsoddi neu chwilio am bartneriaid, dyma'r unig le i fod. Roedd bod yn rhan o daith fasnach Cymru Greadigol mor fuddiol y tro diwethaf, yn enwedig gan nad oeddem yng Nghaerdydd. Roedd Kath a Dai yn anhygoel, ac roeddem yn derbyn gofal gwych.
O'r gorllewin gwyllt yn Sir Benfro, mae'n ymddangos bod y diwydiant gemau yng Nghymru yn ffynnu. Mae llawer mwy o gwmnïau gemau yn teithio gyda thaith fasnach Cymru Greadigol, felly mae hynny'n arwydd gwych.
I'r rhai sy'n mynychu eu GDC cyntaf, mae i fyny i chi a faint o amser ac ymdrech rydych chi'n ei roi ynddo. Trefnwch gyfarfodydd, paratowch eich cyflwyniad byr ac ymarfer cyflwyno’n gyflym. Rhowch amser i'ch hun gyrraedd y cyfarfodydd - cefais ddau neu dri achlysur o boeni y tro diwethaf pan oeddwn yn hwyr i'r cyflwyniad gan ei fod yn rhy bell rhwng cyflwyniadau. Y tro hwn rwy'n rhoi 30 munud i mi fy hun rhwng cyflwyniadau. Ar ôl i chi fynd trwy eich cyflwyniad byr, byddwch eisiau dangos fideo neu demo os oes gennych un. Gwnewch yn siŵr bod gennych gardiau busnes a gwaith papur gyda chodau demo i'w gadael i bobl. Os ydych yn llwyddiannus, efallai y byddan nhw'n dweud wrthych eu bod am eich trosglwyddo i'r cam nesaf.
Mae'n golygu llawer i gwmnïau gael cefnogaeth Cymru Greadigol. Ochr yn ochr â'r teithiau i GDC, maent wedi ein helpu gyda grantiau a chyngor. Rydym wedi cael dau grant hyd yma, ac mae'r ddau wedi bod yn bwysig iawn inni – maent yn sicrhau swyddi ac yn ein helpu i ddatblygu cysyniadau a syniadau newydd sy'n adeiladu ein Heiddo Deallusol. Ond yn bwysicaf oll, efallai, mae Cymru Greadigol yn credu ynom a'n nod o fod yn stiwdio gemau o dan arweiniad naratif o safon fyd-eang. Mae'r gred honno'n golygu cymaint i stiwdio fechan, ym mhellafoedd y gorllewin yn Sir Benfro.
Nesaf ar gyfer Goldborough, rydym yn canolbwyntio ar YAMI – ein gêm blatfform pos 3D trydydd person sy'n cael ei arwain gan naratif. Rydym wedi bod yn ei datblygu ers dwy flynedd ac mae disgwyl inni gwblhau ei datblygu yn Ch3. Rydym yn disgwyl lansio yng nghanol 2024. Wrth i'r tîm datblygu gwblhau YAMI byddant yn symud ymlaen i brosiect newydd cyfrinachol. Mae'r gwaith cyn-gynhyrchu ar gyfer hynny wedi cychwyn yn barod!
I gael rhagor o wybodaeth am y Games Developer Conference, darllenwch ein herthygl neu edrychwch ar tudalen ddigwyddiad 2023.