Mae'r Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol yn canolbwyntio ar anghenion sgiliau tymor byr a hir ein tri phrif sector: cerddoriaeth, deunydd digidol a sgrin.

Cafodd y cynllun gweithredu ei lunio gan y Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol, sef grŵp o arbenigwyr o'r diwydiant a sefydlwyd gan Cymru Greadigol ym mis Mai 2022.  Bydd y cynllun tair blynedd yn parhau i esblygu wrth i ni ymateb i heriau a chyfleoedd y diwydiannau creadigol yn y dyfodol.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol yn nodi 10 maes blaenoriaeth o ran y sgiliau sydd eu hangen ar ein gweithlu i lwyddo, gan gynnwys:

  • Hyfforddi busnesau ac arweinwyr
  • Cefnogi Talent 
  • Recriwtio Cynhwysol ac Amrywiol 
  • Lleoliadau a Chyfleoedd ar Lefel Sylfaen 
  • Lleoliadau a Chyfleoedd i Wella Sgiliau 
  • Addysg a’r Cwricwlwm Newydd 
  • Ymwybyddiaeth o Yrfaoedd 
  • Arloesi 
  • Pontio’r Bwlch rhwng Addysg Bellach/Uwch a Diwydiant 
  • Lles y Gweithlu a Chefnogi Gweithwyr Llawrydd.

Fel rhan o’n cynllun gweithredu, rydyn ni wedi ail-gyflwyno Cronfa Sgiliau Creadigol.  Darllenwch fwy am y gronfa yma.

Ffeiliau wedi’u hatodi

Lawrlwythiadau

Deg maes blaenoriaeth ar gyfer anghenion sgiliau dros y tair blynedd nesaf

Straeon cysylltiedig