Ym mis Ionawr 2025, bydd Martin Clunes yn cyrraedd ein sgriniau fel Nathan Williams, ffermwr o Gymro sy’n dod wyneb yn wyneb â gangiau llinellau cyffuriau lleol. Gyda’r Gymru wledig yn gefnlen hardd, mae’r ddrama chwe rhan ar ITV1, Out There, yn cyfuno stori galed â darlun real o fywyd ar fferm.
Cyfarwyddwr y gyfres oedd Marc Evans – sy’n enwog am ei ddramâu Cymreig, Steeltown Murders a The Pembrokeshire Murders. Yn Cymru Greadigol, rydyn ni’n falch iawn o fod wedi rhoi cymorth i’r gyfres. Nid yn unig mae’r ddrama’n amlygu potensial Cymru fel lleoliad ffilmio o’r radd flaenaf, ond mae hefyd yn rhoi llwyfan i ddoniau lleol, a hynny ar y sgrin ac oddi arni.
Darllenwch fwy i glywed am y lleoliadau gwefreiddiol, y criw medrus, a’r hyfforddeion brwdfrydig a helpodd i ddod ag Out There yn fyw. At hynny, dewch i glywed sut gallwn ni roi cymorth i’ch cynhyrchiad nesaf chi yng Nghymru.


Ble cafodd Out There gan ITV ei ffilmio?
Cafodd y ddrama ei ffilmio yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, a hynny gyda chymorth Cymru Greadigol. Er bod lleoliadau ffilmio mwy poblogaidd yn y de-ddwyrain yn aml yn cael yr holl sylw, llwyddodd Out There i ddangos potensial y canolbarth fel cefnlen ryfeddol i gynyrchiadau ffilm a theledu.
Yn y ddrama, mae pob math o leoliadau yn y Mynydd Du’n ymddangos, a’r rheini’n anghyfarwydd i lawer o bobl. Cawn gip hefyd ar bentrefi a threfi braf Crughywel, Llangatwg, Llys-wen a Llanymddyfri. Ochr yn ochr â’r llefydd prydferth hyn yng nghefn gwlad, ffilmiwyd yn rhai o drefi a dinasoedd prysur Cymru fel Casnewydd, Port Talbot, Abertawe a Chaerdydd.
Ffilmiwyd rhai golygfeydd dan do hefyd yn Dragon Studios – stiwdio ffilm a theledu flaenllaw ar gyrion Caerdydd, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gan y safle bump o stiwdios sydd wedi’u codi’n benodol at y diben, a hynny ar safle 100 acer o faint. Mae’n lle cwbl berffaith i gynyrchiadau sy’n awyddus i ffilmio yng Nghymru.
Bu Paul ‘Bach’ Davies, rheolwr lleoliadau sydd â deng mlynedd ar hugain o brofiad yn y diwydiant, yn gweithio ar Out There. Meddai Paul: ‘Roedd bod yn rhan o Out There yn wych. Y brif her i mi oedd dod o hyd i’r ddau brif leoliad, sef fferm y prif gymeriad a’r fferm y drws nesaf iddi. Roedd yn rhaid iddyn nhw fod yn yr un cwm, a chithau’n gallu gweld y naill o’r llall.
Yn y pen draw, fe ddaethon ni o hyd i’n prif leoliad yn Llangatwg, ac roedd y fferm arall yn Llys-wen wedyn, sydd ryw hanner can munud i ffwrdd. Drwy hud a lledrith triciau teledu a golygu, dyma’u gweu nhw at ei gilydd i ymddangos fel petai’r ffermydd gyferbyn â’i gilydd.’


Dewch i gwrdd â chast a chriw Out There
Ynghyd â Martin Clunes, ymhlith aelodau eraill cast Out There roedd Louis Ashbourne Serkis, yn chwarae mab Clunes. Roedd nifer sêr dawnus o Gymru yn rhan o’r gyfres hefyd, gan gynnwys Mark Lewis Jones, a enillodd wobr Bafta Cymru am yr Actor Gorau yn Yr Ymadawiad; Carly-Sophia Davies, yn ei rhan fawr gyntaf; a Gerran Howell, sydd wedi chwarae’r brif ran yn Young Dracula CBBC.
Y tu ôl i’r llen, creodd y cynhyrchiad lawer o gyfleoedd gwaith yn yr ardal. Roedd 68% o’r criw yn weithwyr proffesiynol lleol, tra rhoddwyd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i egin weithwyr creadigol. Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i feithrin a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, rhoddodd y cynhyrchiad gan ITV1 leoliadau gyda thâl i 14 o hyfforddeion newydd. Drwy’r lleoliadau hyn, fe gawson nhw 126 awr o brofiad ymarferol mewn amryw o adrannau cynhyrchu, gan gynnwys adrannau sain, camera, colur a lleoliadau.
Y tu hwnt i’r prentisiaethau a’r lleoliadau hyfforddi, bu’r gymuned leol yn rhan o’r cynhyrchiad hefyd. Gwahoddwyd plant ysgol i’r set i gael cip y tu ôl i’r llen ar y cynhyrchiad, tra cynigiwyd cyfleoedd profiad gwaith byr i ddau unigolyn a oedd yn awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd ffilm a theledu.


Pam fod Cymru yn lleoliad ffilmio ardderchog
Os ydych chi’n chwilio am y lleoliad perffaith i’ch cynhyrchiad nesaf chi, boed yn gyfres deledu, yn ffilm nodwedd neu’n fideo cerddoriaeth, mae’r cyfan ar gael yng Nghymru. O arfordiroedd garw i ddinasoedd prysur, mae gan dirwedd amrywiol Cymru rywbeth i gyd-fynd â phob gweledigaeth greadigol. Yn union fel Out There, sydd wedi dangos prydferthwch a helaethder Cymru fel lleoliad ffilmio, gallai’ch prosiect nesaf chithau elwa o’r hyn sydd gan ein cenedl i’w gynnig.
Felly, os ydych chi’n ystyried ffilmio yng Nghymru, mae modd i Cymru Greadigol helpu drwy wasanaeth Sgrîn Cymru. Drwy ein cronfeydd data defnyddiol, gallwn ni eich cyflwyno i griwiau dawnus , i gyfleusterau arloesol ac i leoliadau trawiadol tu hwnt . Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni ar bob cyfrif, er mwyn clywed sut gallwn ni’ch helpu i gynllunio eich cynhyrchiad nesaf yng Nghymru .
Hoffech chi wybod mwy am gynyrchiadau eraill sydd wedi’u ffilmio yng Nghymru? Dyma fwy o wybodaeth am y prosiectau creadigol rydyn ni wedi’u cefnogi

